MANYLION.
  • Lleoliad: Swyddfeydd y Cyngor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 20372.00 - 21364.00 GBP Fesul Blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 07 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Dysgu Therapiwtig

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 20372.00 - 21364.00 GBP Fesul Blwyddyn

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Ynys Môn wrth galon popeth a wnawn.
• Cefnogi disgyblion 3 - 16 oed mewn ymateb i'w hanghenion, yn arbennig y rheiny gydag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol, i waredu rhwystrau rhag dysgu mewn ysgolion ac yng Nghanolfan Adnoddau Môn fel rhan o 'r t îm integredig ADY a Chynhwysiad.
• Gweithredu'r Cod Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.
• Sefydlu perthynas weithredol ac effeithiol gyda disgyblion, gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r disgwyliadau yr amlinellir yn y safonau proffesiynol ar gyfer cymorth addysg.
• Gweithio dan reolaeth a goruchwyliaeth yr Uwch Athro Cynhwysiad a'r Athro Arbenigol - Ymyrraeth Gynnar Ymddygiad. Bydd yr holl ddyletswyddau yr amlinellir yn y swydd ddisgrifiad yn cael eu cynnal dan reolaeth a goruchwyliaeth athro.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt
Enw: Aaron Evans

Rhif ffôn: 07748622194

Cyfeiriad e-bost: aaronevans@ynysmon.llyw.cymru