MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ynys Môn,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 33731.00 - 51942.00 GBP Fesul Blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 02 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Uwch Athro Arweiniol (ADY) - Uned Asesu a Blynyddoedd Cynnar
Cyngor Sir Ynys Mon
Cyflog: 33731.00 - 51942.00 GBP Fesul Blwyddyn
Gweithio i Gyngor Sir Ynys MônMae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae'r Uwch Athr o Uned Asesu Blynyddoedd Cynnar yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol o'r gwasanaeth Asesu ac Arsylwi'r Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) person - ganolog o ansawdd uchel sy'n cydymffurfio â deddfwriae th a'r Cod ADY ar draws lleoliadau ac ysgolion ym Môn. Mae deilydd y swydd yn goruchwylio'r broses o baratoi, cynnal ac adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau), yn cydlynu paneli a fforymau cymedroli, ac yn sicrhau cydweithio amlasiantaethol effeithiol a phontio'n llyfn i'r ysgol. Maent yn rheoli'r tîm a'r canolfannau Asesu Blynyddoedd Cynnar (ABC), yn modelu ac yn sicrhau ymarfer effeithiol, ac yn arwain ar ddatblygiad proffesiynol, cyngor a chefnogaeth ymyrraeth gynnar i ymarferwyr, darpar wyr a theuluoedd. Mae'r rôl yn gyrru sicrwydd ansawdd trwy fonitro effaith, deilliannau a gwerth am arian, arwain ar ddata ac adrodd, ac ymgorffori safonau cyson. Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr seicoleg addysgol ac ADY a Chynhwysiad, mae deilydd y swydd yn cyfrannu at gynllunio strategol, adolygiadau gwasanaeth a phenderfyniadau adnodd/cyllideb, ac yn gweithredu fel y prif bwynt ar gyfer cysylltu â rhanddeiliaid a rhieni, gan ddatrys pryderon yn unol â pholisi.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Cyflog: Graddfa tal Athrawon ynghyd a lwfans ADY1 sef £2,838 + CAD2 sef £5,977.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Aaron Evans
Rhif ffôn: 07748622194
Cyfeiriad e-bost: aaronevans@ynysmon.llyw.cymru