MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5NB
- Pwnc: Cydlynydd
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Heb ei ddarparu
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 04 Medi, 2026 12:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
2 x Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
* Cytundeb Cyfnod Penodol Rhan Amser 14 awr yr wythnos Prosiect Lles i Duffryn (dyddiad gorffen cytundeb 28ain Chwefror 2027)
* Cytundeb Cyfnod Penodol Llawn Amser Prosiect Digidol a Creadigol Blaenau Gwent (dyddiad gorffen cytundeb 31ain Mawrth 2027)
Ymunwch gyda ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid Bywydau
Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.
Rydym yn falch o’n gwerthoedd a’n hethos, sydd wedi’u gwreiddio mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch. Gwerthfawrogwn ein staff fel ein hased mwyaf ac rydym yn ymroddedig i greu gweithle cadarnhaol, cydweithredol a deinamig lle mae pob aelod o’r tîm yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a’i ysgogi i gyflawni ei orau.
Y Rôl: Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm
Mae rôl y Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm yn un amrywiol sy’n cefnogi datblygiad a gweithrediad y ddarpariaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned. Mae hon yn rôl ymarferol sy’n cynnwys pob agwedd ar gynllunio, trefnu, dyrannu adnoddau a datblygu. Bydd eich gwaith yn allweddol wrth gynorthwyo’r Rheolwr Rhanbarthol i sicrhau bod yr holl weithgareddau dysgu yn bodloni’r targedau darpariaeth, cyllid ac ansawdd y cytunwyd arnynt.
Prosiect Lles i Duffryn – Cyfnod penodol i 28ain Chwefror 2027
Bydd y prosiect hwn yn hwyluso cyfres o gyrsiau a gweithdai i gefnogi iechyd meddwl, lles ac i ddatblygu hyder yn Duffryn, Casnewydd. Bydd pynciau’r cyrsiau a’r gweithdai’n canolbwyntio ar weithgareddau creadigol, gweithgareddau yn yr awyr agored, adeiladu hyder a lles, trwy lwybr iechyd a lles. Gallai hyn arwain at wirfoddoli, cyflogaeth neu gyfleoedd addysg bellach. Bydd y prosiect yn ceisio ymgysylltu â phreswylwyr Duffryn nad ydynt â mynediad i gyfleoedd dysgu ar hyn o bryd. Bydd rôl y CDC yn y prosiect hwn yn cynnwys cydweithio â grwpiau cymunedol a gwasanaethau yn Duffryn i gyrraedd dysgwyr newydd, gan gynyddu ymgysylltiad.
Cytundeb: Cyfnod Penodol i 28ain Chwefror 2027
Oriau: Rhan amser, 14 awr yr wythnos (patrwm gweithio i’w drafod a’i gytuno gyda’r rheolwr llinell)
Lleoliad gwaith: Caerdydd, gyda teithio rheolaidd o fewn adral Duffryn (Gellir ystyried Gweithio’n Ystwyth)
Prosiect Digidol a Creadigol Blaenau Gwent – Cyfnod Penodol i 31ain Mawrth 2027
Mae Prosiect Ddigidol a Creadigol Blaenau Gwen yn fenter gydweithredol sydd â nod o wella sgiliau a chyflogadwyedd trigolion lleol yn y meysydd digidol a chreadigol. Mae’r prosiect yn anelu at helpu pobl i adeiladu sgiliau, cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ystyrlon, a chyfrannu at economïau a chymunedau lleol cryfach. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â bylchau sgiliau lleol yn y meysydd hyn ac yn ceisio cefnogi twf economaidd cynhwysol. Mae’r prosiect yn rhan o ymdrech ehangach i ddatblygu Blueprint ar gyfer Twf cyffrous, ‘Llwyddo Gyda’n Gilydd’.
Cytundeb: Cyfnod Penodol am 7 mis
Oriau: Llawn amser, 35 awr yr wythnos (patrwm gweithio i’w drafod a’i gytuno gyda’r rheolwr llinell)
Lleoliad gwaith: Caerdydd, gyda teithio rheolaidd i ac o fewn adral Blaenau Gwent (Gellir ystyried Gweithio’n Ystwyth)
Os ydych yn mwynhau amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil a bod gennych y sgiliau gofynnol, dyma’r cyfle perffaith i ymuno â ni.
Sut i wneud cais
Ymgeisiwch erbyn 12.00yp Dydd Gwener 4ydd Medi gan ddefnyddio’r ffurflen gais – nodwch nid ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar-lein drwy Microsoft Teams wythnos cychwyn 14eg Medi – os nad ydych ar gael unrhyw ddyddiad ystod yr wythnos hon, sicrhewch eich bod yn nodi hyn ar eich cais ag yn cadarnhau eich argaeledd.
Fel rhan o’r broses recriwtio bydd gofyn i chi ddarparu cyflwyniad, bydd rhagor o fanylion am y cyflwyniad yn cael ei gynnwys yn eich gwahoddiad am gyfweliad.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu’r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.