MANYLION.
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Busnes a Bagloriaeth Cymru, dros dro

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Busnes brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm sefydledig a chefnogol sydd wedi'i leoli ar ein campws yn Dolgellau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu o fewn adran sydd yn cynnwys cyrsiau Lefel 2 a Lefel 3, darpariaeth 14-16, a chwrs gradd Addysg Uwch BA (Anrhydedd) mewn Busnes.

Byddwch yn darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a diddorol sy'n helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer diwydiant ac astudiaeth bellach. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny.

Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio yn y sector.

Os ydych chi'n newydd i addysgu, byddwn yn eich cefnogi i ennill cymhwyster addysgu cydnabyddedig mewn Addysg Bellach/Uwch. Bydd gennych chi fynediad hefyd at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a mentora.

Mesurir llwyddiant ein hadran gan addysgu o ansawdd uchel a'r cyfleoedd a gynigir i'n dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/339/26

Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir

Patrwm gweithio
Hyd at 10 awr yr wythnos. Patrwm gwaith I'w gytuno gyda'r Rheolwr Maes Rhaglen.

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 33.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Wythnosau'r flwyddyn - 34 (yn ystod tymhorau'r coleg)

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
18 Medi 2026
12:00 YH(Ganol dydd)