MANYLION.
  • Lleoliad: In the community,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd SSIE, Dros Dro am y flwyddyn academaidd 2026/2027

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae hwn yn gyfle prin i berson cymwys, egniol a brwdfrydig i ymuno gyda adran SSIE sydd gyda'r gorau yng Nghymru.

Mae'r adran Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE) yn darparu rhaglenni dysgu ieithoedd i ddemograffeg myfyrwyr amrywiol iawn. Gan weithredu ar draws nifer o brif gampysau (gan gynnwys Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, a Bangor) yn ogystal ag amrywiol leoliadau cymunedol, mae'r ddarpariaeth yn sicrhau addysg hygyrch o ansawdd uchel ar draws y rhanbarth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu:
  • addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill ar bob lefel lefelau
  • addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

Cefnogi i ddatblygu'r ddarpariaeth ESOL i gwrdd a gofynion y gymuned

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/338/26

Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Yn y gymuned
  • Lleoliad gwaith i'w gadarnhau

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
Hyd at 20 awr yr wythnos ar gael. Cytundeb rhan amser, telir fesul awr. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd ond gall gynnwys nosweithiau a penwythnosau. Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad.

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Nifer o wythnosau'r flwyddyn i'w gadarnhau

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
18 Medi 2026
12:00 YH(Ganol dydd)