MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Dolgellau,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyhliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 16 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd mewn Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth (Cyfnod Mamolaeth)
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyhliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swyddRydym yn chwilio am Ddarlithydd Cyfrifiadura a Thechnoleg Wybodaeth brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm sefydledig a chefnogol sydd wedi'i leoli ar ein campws yn Dolgellau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu ar draws ein rhaglenni AB, gan ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a diddorol sy'n helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer diwydiant ac astudiaeth bellach. Mae ein dysgwyr yn astudio'r cwrs dwy-flynedd Lefel 3 BTEC Cyfrifiadura a Thechnoleg Wybodaeth a'r Bagloriaeth Cymru. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny.
Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio yn y sector.
Os ydych chi'n newydd i addysgu, byddwn yn eich cefnogi i ennill cymhwyster addysgu cydnabyddedig mewn Addysg Bellach. Bydd gennych chi fynediad hefyd at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a mentora.
Mesurir llwyddiant ein hadran gan addysgu o ansawdd uchel a'r cyfleoedd a gynigir i'n dysgwyr.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/337/26
Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyhliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Dolgellau
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau pro rata gyda thâl ym mhob blwyddyn academaidd (sef y cyfnod rhwng 1 Medi a 31 Awst). Mae hyn yn cynnwys hawl pro rata i Wyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus traddodiadol Cymru (8 diwrnod) a hawl pro rata i 5 diwrnod effeithlonrwydd (noder y gall hyn newid yn bob blwyddyn). Caiff gwyliau blynyddol ei gyfrifo ar sail cyfran pro rata o'r hawl llawn amser o 46 awr sy'n gynwysedig yn y gyfradd a delir fesul awr.
Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos. Patrwm gwaith i'w gytuno yn dibynnu ar argaeledd. Mae'r pwnc a'r lefel cyflwyno yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn ddibynnol ar feini prawf y pwnc) yn cael ei ychwanegu i'r oriau a weithir i adlewyrchu'r gwaith paratoi a marcio.
Wythnosau'r flwyddyn - 35 (yn ystod tymhorhau'r Coleg)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
16 Medi 2026
12:00 YH(Ganol dydd)