MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: In the community,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd Dysgu Gydol Oes, Dros dro am y flwyddyn academaidd 2026/27
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae hwn yn gyfle i unigolyn cymwys, egniol a brwdfrydig i ymuno gyda Thím Addysg Oedolion Cymunedol - Potensial yn Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd a Môn.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu:
- • Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
- • Addysgu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol
- • Addysgu pwnc arbenigol arall e.e. Cymdeithaseg, TGCh neu Gweinyddu Busnes ayyb
- • Cynorthwyo i ddatblygu'r ddarpariaeth Addysg Oedolion.
Mae'n gyfnod cyffrous i'r sector Addysg Oedolion:mae iddi ran flaenllaw i gefnogi adfywiad economaidd a datblygiad sgiliau drwy ddarparu cyfleon hyfforddiant ac hefyd i ysgogi diwylliant o ddysgu gydol oes er budd unigolion a chymunedau.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/335/26
Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Yn y gymuned
- Lleoliad gwaith i'w drafod
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 20 awr yr wythnos ar gael. Cytundeb rhan amser, telir fesul awr. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd ond gall gynnwys nosweithiau a penwythnosau. Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad.
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Wythnosau'r flwyddyn - i'w gytuno
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
15 Medi 2026
12:00 YH(Ganol dydd)