MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y SwyddMae Adran Beirianneg Coleg Menai, Llangefni, yn adran hynod lwyddiannus, uwch-dechnolegol ac arloesol sy'n cynnig cyrsiau ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a lefelau, o Lefel 1 Sylfaen hyd at Lefel 5 Addysg Uwch.
Cynhelir y broses ddysgu ac addysgu gan ddefnyddio offer sy'n cydymffurfio â safonau'r diwydiant ac mewn cyfleusterau a gweithdai modern. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi'i hyfforddi a'i gymhwyso'n briodol i ymuno â'r Adran a'n cynorthwyo i addysgu ac hyfforddi gweithlu'r dyfodol ar gyfer Ynys Môn a thu hwnt.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig, trefnus ac ymroddedig sydd â phrofiad ym maes peirianneg drydanol ac electronig, gan gynnwys theori a sgiliau ymarferol. Byddai cefndir ym maes awyrenol neu ynni niwclear yn fantais fawr i unrhyw ymgeisydd, wrth i ni ymdrechu i ddiwallu anghenion y diwydiant lleol nawr ac yn y dyfodol.
Heb ddysgu o'r blaen? Peidiwch â phoeni; byddwch yn dysgu wrth wneud y gwaith ac yn dilyn cwrs PGCE neu gymhwyster addysgu cyfatebol fel rhan o'ch datblygiad proffesiynol. Yr hyn sydd ei angen arnom o'r cychwyn cyntaf yw brwdfrydedd a hyder i addysgu pobl ifanc am y pynciau sy'n ofynnol yn eich maes arbenigedd.
Mae'r adran yn darparu ystod eang o gyfleoedd, gan gynnwys cyrsiau amser llawn, cyrsiau rhan-amser,
prentisiaethau a chwricwlwm 14-16 mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd lleol. Ar hyn o bryd, mae gennym dîm cryf o ddarlithwyr mewn meysydd fel Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol, Technoleg Modurol, a Weldio a Ffabriceiddio, ynghyd â goruchwylwyr sgiliau ymarferol.
Bydd rôl y Darlithydd yn cynnwys darparu addysg o ansawdd uchel i ddysgwyr ar draws amrywiaeth o gymwysterau a lefelau, ar raglenni amser llawn, rhan-amser a phrentisiaethau. Bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno sesiynau damcaniaethol yn yr ystafell ddosbarth, rhoi hyfforddiant ymarferol yn y gweithdy pan fo angen, a darparu cymorth tiwtorial parhaus i sicrhau bod dysgwyr yn llwyddo ac yn cyrraedd eu graddau targed.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd chwarae rhan ragweithiol wrth arwain a datblygu'r cyrsiau, gan sicrhau bod dysgwyr yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o addysgu a dysgu a darparu cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus sy'n hyrwyddo llwyddiant dysgwyr. Rydym yn awyddus i weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol er mwyn darparu'r profiad gorau posibl i ddysgwyr ac i gefnogi datblygiad parhaus yr adran.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Darparu addysgu o ansawdd uchel, creu cyfleoedd dysgu effeithiol a galluogi pob dysgwr i gyflawni hyd eithaf ei allu.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth o ran y cymorth a roddir i'r dysgwyr.
4. Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael eu dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo i gyrraedd eu targedau neu'n uwch, gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/330/26
Cyflog
£33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol
• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.
Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
15 Medi 2026
12:00 YH(Ganol dydd)