MANYLION.
  • Lleoliad: Penybont Primary,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £14,891-£15,381 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 02 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cogydd - Ysgol Gynradd Pen-y-Bont

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £14,891-£15,381 y flwyddyn

22.5 awr yr wythnos

Amser Tymor

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod fel Cogydd i reoli a chydlynu gweithgareddau o ddydd i ddydd mewn ceginau ysgolion, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio'r fwydlen, rheoli dognau, paratoi a choginio, dyletswyddau gweinyddu a goruchwylio staff.

Byddai profiad blaenorol o baratoi bwyd a choginio i niferoedd mawr, goruchwylio, dyrannu dyletswyddau a hyfforddi yn fantais, ynghyd â gofynion Iechyd a Diogelwch, diogelwch, dyletswyddau gweinyddol, gofynion deiet arbenigol a diwylliannol, a gwybodaeth am reoliadau COSHH.

Mae Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon (darperir hyfforddiant). Mae NVQ 2 neu gyfwerth yn ddymunol.

Gallai'r oriau gwaith fod rhwng 9.00am a 2.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 02 Medi 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 03 Medi 2026

Dyddiad y Cyfweliad: wythnos yn dechrau 14 Medi 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person