MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Across All Campuses,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa gyflog 5: £30,165 - £33,119 (pro rata) £15.63 - £17.16 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 18 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa gyflog 5: £30,165 - £33,119 (pro rata) £15.63 - £17.16 yr awr
Hyfforddwr Cynnydd AchlysurolGraddfa gyflog 5: £30,165 - £33,119 (pro rata)£15.63 - £17.16 yr awr
Nodwch, mae hyn yn gytundeb delir yn ol yr awr sydd yn golygu nad ydy dyddiau ac oriau penodol yn warantedig - cynigwyd ar sail achlysurol ad hoc ac felly gall newid.
Mae gennym gyfle cyffrous i'r unigolyn cywir ymuno â ni yn rôl Hyfforddwr Cynnydd, gan ymuno â'n tîm presennol yng Ngholeg Penybont.
Fel Hyfforddwr Cynnydd, byddwch yn hyrwyddo cynnydd a llwyddiant ein dysgwyr trwy reoli taith ddysgwr sy'n canolbwyntio ar y person ar gyfer llwyth achosion o ddysgwyr o fewn maes cwricwlwm, gan eu galluogi i fod yn bopeth y gallant fod.
Yn ogystal â dilyn cynnydd eu rhaglen ddysgu, byddwch hefyd yn datblygu a chefnogi lles personol, cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr, gan feithrin eu hyder, eu gwydnwch a'u sgiliau craidd trwy'r Addewid Rhaglen Ddysgu a thrwy hwyluso rhaglen diwtorial y coleg.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad o weithio'n llwyddiannus gyda phobl ifanc mewn amgylchedd ôl-16, gyda'r gallu i ddarparu lefelau uchel o ofal a thrugaredd, gan fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y person wrth weithio gyda dysgwyr. Byddwch hefyd yn meddu ar ddiplomyddiaeth, doethineb a gwydnwch emosiynol wrth weithio gyda myfyrwyr heriol. Byddwch yn ymuno â thîm cefnogol sy'n angerddol am daith y dysgwr.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth y swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig.
Mae cofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC) yn ofyniad ar gyfer y rolau hyn ac mae angen iddo fod ar waith cyn y gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.