MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Gradd 7 - £31,022 x 87.94% (pro rata)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 7 - £31,022 x 87.94% (pro rata)
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002582 Dyddiad postio 07/08/2026 Dyddiad cau ceisiadau 10/09/2026 Cyflog Gradd 7 - £31,022 x 87.94% (pro rata) Oriau gwaith 36.25 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil School Clerk (Level 4) - Grade 7_CY-GB.pdf School Clerk (Level 4) - Grade 7.pdf
Clerc Yr Ysgol (Lefel 4) YGG Evan James
Disgrifiad Swydd
Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James
Ffordd y Rhondda
Pontypridd
CF37 1HF
01443 486813
Clerc Yr Ysgol (Lefel 4)
Oriau: 36 ¼ awr yr wythnos (tymor yn unig, 39 wythnos y flwyddyn)
5 diwrnod yr wythnos - 8:30am - 4:30pm
Cyflog: Gradd 7 - £31,022 x 87.94% (pro rata)
Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosibl
Mae'r Corff Llywodraethol am benodi person dibynadwy a brwdfrydig i ymuno gyda staff yr ysgol. Dylai ymgeiswyr ddangos cymhelliant a blaengaredd a dylai fod ganddynt agwedd hyblyb tuag at y swydd.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus:
- Arwain y gwaith o gynllunio, datblygu, dylunio, trefnu a monitro systemau a gweithdrefnau cymorth
- Ymgymryd â chyfrifoldebau Rheoli Llinell pan fydd angen
- Fod yn ddolen gyswllt rhwng rheolwyr, staff addysgu a staff cymorth
- Gynnal cyfarfodydd carfan rheolaidd gyda staff rydych yn eu rheoli
- Ymgymryd â'r broses recriwtio/sefydlu/arfarnu/mentora ar gyfer staff eraill ble y bo'n addas
- Arwain datblygiad y systemau gwybodaeth/cofnodion a'u cynnal a chadw. Mae modd i'r rhain gynnwys iTrent, SIMS, CYBLD
https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC179GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Mrs Emma Smith, Pennaeth, ar 01443 486813.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar ddydd Iau 10 Medi.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.