MANYLION.
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,912 - £38,218
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 31 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferydd Dysgu Yn Y Gwaith – Plymio CC/3175

Coleg Cambria

Cyflog: £33,912 - £38,218

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Teitl y Swydd: Ymarferydd Dysgu Yn Y Gwaith - Plymio

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gytundeb: Parhaol, Llawn amser

Cyflog: £32,608 - £36,748

Ydych chi'n barod i feithrin y genhedlaeth nesaf o blymwyr medrus?

Rydym yn chwilio am Ymarferydd Dysgu Yn Y Gwaith llawn angerdd a chymhelliant i ymuno â'n tîm Plymio deinamig. Os ydych chi'n wych am gael y gorau allan o brentisiaid a bod gennych chi'r ddawn i gynnwys profiadau o'r diwydiant go iawn mewn addysg yna gall y swydd hon fod yn berffaith i chi.

Byddwch fel aelod allweddol o'n tîm yn:
  • Asesu a helpu dysgwyr i gyflawni eu cymwysterau yn unol â gofynion y Sefydliad Dyfarnu.
  • Rheoli criw o ddysgwyr a chynnal Dadansoddiadau o Anghenion Hyfforddi i sicrhau eu bod ar y llwybr cywir i'r asesiad terfynol.
  • Hwyluso cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu diddorol sy'n helpu dysgwyr i lwyddo.
  • Cyflwyno sesiynau rhyngweithiol i gynllunio asesiadau prosiect ymarferol mewn fformatau gweithdy unigol a grwpiau bach (hyd at 8 o ddysgwyr).

Rydym yn gofyn am y pethau angenrheidiol canlynol:
  • O leiaf Cymhwyster Lefel 3 mewn Plymio (neu gyfwerth) a chymhwysedd i ymuno â chofrestr GasSafe.
  • Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol, gan gynnwys gweithio tuag at:
    • Cymhwyster Asesydd (TAQA)
    • Cymhwyster Sicrhau Ansawdd (TAQA Uned 401)
    • Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol
  • Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) ar Radd C (4) neu uwch.
  • Profiad amlwg yn y diwydiant a'r gallu i gydweithio â phartneriaid allanol yn y diwydiant.
  • Sgiliau digidol cryf ac yn gallu defnyddio offer fel Google Workspace a rhaglenni Microsoft yn hyderus.
  • Sgiliau trefnu eithriadol, rheoli amser, a'r gallu i gwrdd â therfynau amser.

Sgiliau a phrofiadau dymunol
  • Cymwysterau neu brofiad mewn technolegau adnewyddadwy fel systemau thermol solar, pympiau gwres, neu systemau cynaeafu dŵr glaw.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd benodol hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a all ein helpu i ddatblygu ein darpariaeth a'n gwasanaeth dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig