MANYLION.
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £20,429 - £31,579 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Busnes a Bagloriaeth Cymru (Lefel A), 0.608

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £20,429 - £31,579 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae ein canolfannau Chweched Dosbarth yn cynnig addysg o'r safon uchaf.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ysbrydoledig i ymuno â'r tîm i addysgu i safon uchel a galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae ein colegau'n rhan o gynllun Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru a gynlluniwyd i gefnogi'r rhai mwyaf galluog i wireddu eu potensial academaidd yn llawn ac i symud ymlaen i'r Prifysgolion gorau.

Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y pwnc sy'n edrych i gymryd eu camau cyntaf i addysg. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a darparu cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus sy'n hyrwyddo llwyddiant dysgwyr. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i ddysgwyr.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i

gyflawni hyd eithaf eu gallu. Byddai disgwyl i chi ddylunio a chyflwyno gwersi deniadol sy'n herio myfyrwyr ac yn meithrin cariad at y pwnc.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr. Rydym yn chwilio am addysgwr sy'n awyddus i fynd â dysgu y tu hwnt i furiau'r ystafell ddosbarth. Bydd gennych yr hyblygrwydd a'r gefnogaeth i arwain teithiau archwiliadol a chyfleoedd cyfoethogi pynciau.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr. Bydd gofyn i chi ddarparu adborth o ansawdd uchel ac ymyriadau i sicrhau bod pob myfyriwr yn cyrraedd neu'n rhagori ar ei radd darged.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/331/26

Cyflog
£20,429 - £31,579 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
  • 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol
  • Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
  • Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.

Patrwm gweithio
22.5 awr yr wythnos

508 awr o amser addysgu blynyddol - 14.5 i 15.5 awr yr wythnos.

Hyd at 3 awr yr wythnos o weithio'r safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
09 Medi 2026
12:00 YH(Ganol dydd)