MANYLION.
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £27,239 - £42,106 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth 0.8108

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £27,239 - £42,106 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Cyfrifiadura a Thechnoleg Wybodaeth brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm sefydledig a chefnogol sydd wedi'i leoli ar ein campws yn Dolgellau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu ar draws ein rhaglenni AB(Addysg Bellach), gan ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a diddorol sy'n helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer diwydiant ac astudiaeth bellach. Mae ein dysgwyr yn astudio'r cwrs dwy-flynedd Lefel 3 BTEC Cyfrifiadura a Thechnoleg Wybodaeth a'r Bagloriaeth Cymru. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny.

Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio yn y sector.

Os ydych chi'n newydd i addysgu, byddwn yn eich cefnogi i ennill cymhwyster addysgu cydnabyddedig mewn Addysg Bellach. Bydd gennych chi fynediad hefyd at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a mentora.

Mesurir llwyddiant ein hadran gan addysgu o ansawdd uchel a'r cyfleoedd a gynigir i'n dysgwyr.

Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn rhannu swydd

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/327/26

Cyflog
£27,239 - £42,106 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

• Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.

Patrwm gweithio
30 awr yr wythnos

677 awr o amser addysgu blynyddol - 19 i 21 awr yr wythnos.

Hyd at 4 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle drwy gytundeb a'r rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
08 Medi 2026
12:00 YH(Ganol dydd)