MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Noted in the Job Description,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £29,878. - £32,423 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 04 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyfnod Penodol hyd at 31 Awst 2027 (2 swydd ar gael)
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £29,878. - £32,423 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gymwysterau Iechyd a gofal cymdeithasol.Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.
Bydd disgwyl i'r asesydd recriwtio dysgwyr a darparu amrywiaeth o gymwysterau.
O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau. Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.
Bydd yr asesydd yn cynrychioli tîm aseswyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn busnes@gllm a bydd disgwyl iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir er mwyn annog dysgwyr i gofrestru arnynt. Byddai'r gallu i addysgu grwpiau bach mewn sesiynau gweithdy ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn fanteisiol. Bydd yr asesydd yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir i'r dysgwyr:
- O'r ansawdd uchaf posibl
- Yn darparu gwerth am arian
- Yn diwallu anghenion y cyflogwr ac anghenion y myfyrwyr sy'n derbyn hyfforddiant
Yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion y coleg
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/324/25
Cyflog
£29,878. - £32,423 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
04 Medi 2026
12:00 YH(Ganol dydd)