MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £14,939 - £16,211y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 02 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Aseswr Dysgu yn y Gweithle mewn Sgiliau Hanfodol, 0.5
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £14,939 - £16,211y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.
O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau. Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.
Bydd yr asesydd yn cynrychioli tîm aseswyr sgiliau hanfodol Cymru o fewn Busnes@gllm a bydd disgwyl iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir er mwyn annog dysgwyr i gofrestru arnynt. Bydd yr asesydd yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir i'r dysgwyr:
- O'r ansawdd uchaf posibl
- Yn darparu gwerth am arian
- Yn diwallu anghenion y cyflogwr ac anghenion y myfyrwyr sy'n derbyn hyfforddiant
Yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion y coleg
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/323/26
Cyflog
£14,939 - £16,211y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
Patrwm gweithio
18.5 awr yr wythnos (efallai y bydd mwy o oriau ar gael)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
02 Medi 2026
12:00 YH(Ganol dydd)