MANYLION
  • Lleoliad: Bersham Road, Wrexham, LL13 7UH
  • Testun: Hyfforddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,208 - £25,028
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Tachwedd, 2021 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Arddangoswr mewn Peirianneg

Hyfforddwr Arddangoswr mewn Peirianneg

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesi ac ysbrydoli…

Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr mewn Peirianneg

Lleoliad: Ffordd y Bers

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Graddfa Gyflog: £21,208 - £25,028



Ydych chi'n Beiriannydd medrus sy'n awyddus i rannu eich arbenigedd a'ch sgiliau ymarferol gyda'n myfyrwyr? Os felly, mae Coleg Cambria yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr mewn Peirianneg wedi’i leoli ar ein safle yn Ffordd y Bers yn Wrecsam.

Fel Hyfforddwr Arddangoswr, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno sesiynau ymarferol mewn Peirianneg yn bennaf i’n myfyrwyr yn Sefydliad Technoleg blaengar Coleg Cambria. Byddwch yn gyfrifol am baratoi amserlen o weithgareddau ymarferol o wybodaeth a ddarperir gan Gyfarwyddwyr Cwricwlwm a Darlithwyr yn ogystal â chynorthwyo i fonitro cynnydd myfyrwyr. Mae'r Hyfforddwr Arddangoswr hefyd yn gyfrifol am asesu cymhwysedd a chynnydd myfyrwyr mewn gweithgareddau ymarferol. Bydd hefyd yn ofynnol i chi gwblhau'r cofnodion diweddaraf, gan gynorthwyo gydag adolygiadau myfyrwyr yn ogystal â chynhyrchu canlyniadau cyrsiau.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad diweddar o beirianneg yn y diwydiant, yn ddelfrydol gyda phrofiad o ddarparu hyfforddiant ymarferol neu weithdai. Dylech allu dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun. Fel Hyfforddwr Arddangoswr, bydd gennych sgiliau rhyngbersonol ardderchog a'r gallu i greu amgylchedd gofalgar a chefnogol i'n myfyrwyr.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn Peirianneg neu faes pwnc perthnasol arall

Profiad diweddar o'r diwydiant mewn maes arbenigol perthnasol.

Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath.

Hyfedredd mewn Microsoft Office a phecynnau TGCh eraill

Bod yn hunanhyderus gan arddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu

Gallu sefydlu cydberthnasau gwaith effeithiol a bod yn chwaraewr tîm cryf



Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd hefyd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen pythefnos o’r dyddiad cau, yna’n anffodus ni lwyddoch i gael cyfweliad.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30/06/21
JOB REQUIREMENTS
Gofynion Hanfodol

Cymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn Peirianneg neu faes pwnc perthnasol arall

Profiad diweddar o'r diwydiant mewn maes arbenigol perthnasol.

Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath.

Hyfedredd mewn Microsoft Office a phecynnau TGCh eraill

Bod yn hunanhyderus gan arddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu

Gallu sefydlu cydberthnasau gwaith effeithiol a bod yn chwaraewr tîm cryf