MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Carmarthen, SA32 8NJ
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 09 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
Darlithydd mewn Peirianneg AmaethyddolApplication Deadline: 9 August 2026
Department: Amaethyddiaeth
Employment Type: Rhan Amser
Location: Campws Y Gelli Aur
Compensation: £26,387 - £51,931 / blwyddyn
DescriptionOes profiad gennych chi yn y diwydiant peirianneg amaethyddol ac a ydych yn frwdfrydig ynghylch rhannu eich gwybodaeth? Ymunwch â'n tîm ymroddedig ar Gampws Gelli Aur, un o brif ganolfannau addysg ar-dir Cymru, a helpwch i roi'r sgiliau technegol, yr hyder a'r profiad ymarferol i ddysgwyr sydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector peirianneg amaethyddol.
Trwy weithio o fewn tîm cwricwlwm sefydledig sydd â chysylltiadau cryf â diwydiant, byddwch yn cyflwyno addysgu o ansawdd uchel ar draws rhaglenni Lefel 2 a Lefel 3, gan gyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth gyda hyfforddiant gweithredol ymarferol yn ein gweithdai peirianneg pwrpasol a'n cyfleusterau arbenigol.
Yr hyn byddwch chi'n ei wneudFel Darlithydd mewn Peirianneg Amaethyddol, byddwch chi'n:
- Cyflwyno addysgu sy'n ennyn diddordeb yn yr ystafell ddosbarth ac mewn sesiynau ymarferol ar draws rhaglenni Peirianneg Amaethyddol.
- Asesu cynnydd dysgwyr a darparu adborth o ansawdd uchel i gefnogi cyflawniad.
- Gweithredu fel tiwtor personol, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu taith addysgol.
- Datblygu adnoddau addysgu arloesol a chyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm.
- Gweithio'n agos gyda chyflogwyr a phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod ein darpariaeth yn adlewyrchu arferion cyfredol y diwydiant.
- Hyrwyddo amgylchedd dysgu diogel, gan wneud yn siŵr bod yr holl weithgareddau ymarferol yn bodloni gofynion iechyd a diogelwch.
- Cyfrannu at recriwtio dysgwyr, digwyddiadau agored a gweithgareddau ehangach y cwricwlwm.
Amdanoch chiYr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Byddwch yn frwdfrydig iawn ynghylch datblygu pobl dalentog y dyfodol ac y ymrwymedig i gyflwyno profiad rhagorol i ddysgwyr. Yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar:
- Radd berthnasol neu gymhwyster lefel uwch cyfwerth.
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.
- Cymhwyster addysgu cydnabyddedig, neu barodrwydd i ennill TAR o fewn dwy flynedd (darperir cefnogaeth lawn).
- Sgiliau cyfathrebu a threfniadol cryf.
- Dull cydweithredol a brwdfrydedd dros ddysgu gweithredol, ymarferol.
- Gwybodaeth ddiwydiannol gyfredol ac ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Rydym yn rhagweld y byddwn yn llunio rhestr fer o'r ceisiadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 10 Awst 2026, gyda disgwyl i gyfweliadau gael eu cynnal ar 17 Awst 2026. Os hoffech chi drefnu ymweliad anffurfiol, neu i wybod mwy, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.
Pam Ymuno â Ni?Yng Ngholeg Sir Gâr, byddwch yn dod yn rhan o dîm brwdfrydig sy'n cyflwyno addysg ar-dir o ansawdd uchel yn ein Campws rhagorol yng Ngelli Aur. Byddwch yn gweithio gyda chyfleusterau ardderchog, partneriaethau cryf gyda chyflogwyr a dysgwyr sy'n paratoi ar gyfer gyrfaoedd cyffrous o fewn un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru.
Yn gyfnewid am hyn, rydyn ni'n cynnig amgylchedd gwaith cefnogol a chynwysol, gwyliau blynyddol hael, aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Athrawon ynghyd â chyfraniadau cyflogwr o 28.68%, cyfleoedd ardderchog ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant, mentrau lles staff, ac ystod o fuddion gweithwyr cyflogedig wedi'u cynllunio i gefnogi eich iechyd a'ch lles. P'un a ydych yn ddarlithydd profiadol neu'n ystyried cymryd eich camau cyntaf i addysgu o ddiwydiant, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu eich gyrfa a chael effaith barhaol ar y genhedlaeth nesaf o beirianwyr amaethyddol.
Gwnewch gais heddiw a helpwch i ysbrydoli dyfodol peirianneg amaethyddol yng Nghymru.