MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £15,780 - £17,677 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 04 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £15,780 - £17,677 / blwyddyn
Technegydd WeldioApplication Deadline: 4 August 2026
Department: Peirianneg
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Graig
Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm
Compensation: £15,780 - £17,677 / blwyddyn
DescriptionRydyn ni'n chwilio am Dechnegydd Weldio ymroddgar a medrus i ymuno â'n Hadran Beirianneg ddeinamig yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae'r rôl hon yn hanfodol o ran sicrhau gweithrediad didrafferth a diogel ein gweithdai weldio ar gampws y Graig.
Mae'r swydd hon yn chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu cymorth technegol o ansawdd uchel i fyfyrwyr a staff academaidd yn ystod sesiynau addysgu ymarferol. Chi fydd yn bennaf gyfrifol am gadw trefn ar y gweithdy, cydymffurfio ag iechyd a diogelwch, a chynnal a chadw cyfarpar arbenigol, gan gynnwys MIG, TIG, MMA, ac offer ocsi-asetylen.
Gan weithio'n agos gyda Phennaeth y Cwricwlwm, arweinwyr cwrs, a staff darlithio, byddwch yn cefnogi cyfathrebu ac yn sicrhau bod pob gweithgarwch sy'n seiliedig ar weithdai yn cael ei gyflwyno'n effeithiol ac yn ddiogel. Bydd eich gwaith yn helpu i gynnal amgylchedd dysgu glân, trefnus lle mae prosesau iechyd a diogelwch statudol—megis Asesiadau Risg a chofnodion COSHH—yn cael eu dilyn yn fanwl.
Daw'r rôl o fewn yr Adran Beirianneg ac mae'n cynnwys ystod eang o ddyletswyddau technegol, o baratoi metel gan ddefnyddio gilotinau a thorwyr plasma i reoli stocrestr storfeydd ac archebu nwyddau traul. Fel rhan o'n tîm cydweithredol technegol, byddwch yn cyfrannu at amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol ac yn ategu ymrwymiad y Coleg i ragoriaeth a phroffesiynoldeb.
Dyma gyfle ardderchog i rywun â phrofiad technegol diweddar a pherthnasol mewn weldio sy'n drefnus iawn, ymwybodol o ddiogelwch, ac sy'n ymrwymedig i ddarparu cefnogaeth neilltuol o fewn lleoliad addysgol.
Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Technegydd:
- Ddarparu cefnogaeth a chymorth technegol ar gyfer gwaith addysgu a dysgu o fewn eich maes, gan ymateb i anghenion myfyrwyr, staff academaidd a'r arweinydd (arweinwyr) cwrs perthnasol;
- Cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel yn y gweithdai weldio, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch;
- Paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs;
- Cynnal a chadw a thrin cyfarpar weldio, gan gynnwys MIG, TIG, MMA a chyfarpar ocsi-asetylen;
- Sicrhau bod cyfarpar cwrs, deunyddiau a stoc yn derbyn y gofal priodol a'u bod yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u cadw a'u diogelu, a bod offer a chyfarpar yn cael eu storio o'r neilltu ar ôl pob sesiwn;
- Cadw stocrestr stordai ar gyfer nwyddau traul, cyfarpar ac adnoddau cyflwyno;
- Mynd ati i archebu stoc yn unol â gweithdrefnau ariannol y coleg a diweddaru'r gronfa ddata archebu ar-lein;
- Paratoi deunyddiau metel mewn modd cywir a diogel. Gweithredu amrywiol beiriannau torri gan gynnwys gilotinau, cylchlifiau, a thorwyr plasma.
- Cymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm y cwrs; pwyllgorau ymgynghorol myfyrwyr; a chyfarfodydd y maes cwricwlwm yn ôl y gofyn;
- Cyflawni dyletswyddau sy'n cefnogi gwaith marchnata a hyrwyddo rhaglen y cwrs;
- Cynorthwyo darlithwyr a myfyrwyr wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau yn y gweithdy, yn unol ag amserlen y cytunwyd arni;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- Cymhwyster galwedigaethol perthnasol mewn weldio neu ddisgyblaeth beirianneg gysylltiedig
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- IOSH Rheoli'n Ddiogel (Os nad oes gennych gymhwyster IOSH, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
- Profiad diweddar a pherthnasol o'r maes/meysydd technegol dan sylw
- Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch
- Bod yn gymwys i ddefnyddio peiriannau weldio a thorri
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Y gallu i weithio'n hyblyg
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4 Hanfodol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4 Hanfodol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein