MANYLION.
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £18,959 - £21,238 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Peirianneg Fodurol 0.8

Coleg Sir Gar

Cyflog: £18,959 - £21,238 / blwyddyn

Technegydd Peirianneg Fodurol 0.8
Application Deadline: 3 August 2026

Department: Cerbydau Modur

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Pibwrlwyd

Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm

Compensation: £18,959 - £21,238 / blwyddyn

DescriptionRydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol a brwdfrydig i ymuno â'n tîm Modurol yng Nghyfadran y Celfyddydau Creadigol a Choginiol, Gwyddor Anifeiliaid, Modurol a Thechnoleg.

Mae ein darpariaeth Modurol yn cynnig cwricwlwm eang o Lefel Mynediad i Lefel 3, gan gynnwys rhaglenni astudio llawn amser, darpariaeth cyswllt ysgolion a phrentisiaethau. Mae'r adran wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu rhagorol, gyda dysgwyr yn elwa o raglen diwtorial gref, cyfleoedd cyfoethogi a'r cyfle i arddangos eu sgiliau trwy ddigwyddiadau'r Coleg a digwyddiadau allanol.

Fel Technegydd Modurol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r gwaith o gyflwyno dysgu ymarferol o ansawdd uchel. Gan weithio'n agos gyda staff addysgu, byddwch yn sicrhau bod gweithdai, cerbydau, offer a chyfarpar yn cael eu cynnal a'u paratoi i safon uchel, gan ddarparu amgylchedd dysgu diogel, trefnus a pherthnasol i'r diwydiant i'n dysgwyr.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ymrwymiad cryf i iechyd a diogelwch, sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i gydweithio fel rhan o dîm cwricwlwm prysur. Dyma gyfle gwych i gyfrannu at ddatblygiad dysgwyr a chefnogi'r gwaith o gyflwyno cwricwlwm modurol uchelgeisiol a diddorol.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Technegydd:
  • ddarparu cefnogaeth a chymorth technegol ar gyfer gwaith dysgu ac addysgu o fewn eich maes, gan ymateb i anghenion myfyrwyr, staff academaidd a'r arweinydd (arweinwyr) cwrs perthnasol;
  • cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel yn y gweithdai modurol, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch;
  • paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs;
  • cynnal a chadw, uwchraddio a gwasanaethu cyfarpar a cherbydau gan gynnwys ailadeiladu ac atgyweirio, yn ôl y bwriad, y gofyn neu ar gais;
  • sicrhau bod cyfarpar cwrs, deunyddiau a stoc yn derbyn y gofal priodol a'u bod yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u cadw a'u diogelu, a bod offer a chyfarpar yn cael eu storio o'r neilltu ar ôl pob sesiwn;
  • cadw stocrestr stordai ar gyfer nwyddau traul, cyfarpar ac adnoddau cyflwyno;
  • mynd ati i archebu stoc yn unol â gweithdrefnau ariannol y coleg a diweddaru'r gronfa ddata archebu ar-lein;
  • darparu gwasanaeth cyflenwi o'r stordai ar gyfer nwyddau traul y cwrs a gwasanaeth benthyca a dychwelyd ar gyfer yr holl gyfarpar adrannol ac eitemau cwrs eraill;
  • cymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm y cwrs; pwyllgorau ymgynghorol myfyrwyr; a chyfarfodydd y maes cwricwlwm yn ôl y gofyn;
  • cyflawni dyletswyddau sy'n cefnogi gwaith marchnata a hyrwyddo rhaglen y cwrs;
  • cynorthwyo darlithwyr a myfyrwyr wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau mewn gweithdy, yn unol ag amserlen y cytunwyd arni;
  • cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • Cymhwyster VCQ / NVQ Lefel 3 o leiaf a/neu gymhwyster cyfatebol ym maes Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • IOSH Rheoli'n Ddiogel (Os nad oes gennych gymhwyster IOSH, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
  • Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
  • Profiad diweddar a pherthnasol o'r maes/meysydd technegol dan sylw
  • Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol ym maes Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gweithdy modurol yn y diwydiant
  • Bod yn gymwys wrth ddefnyddio'r cyfarpar canlynol: Cyfarpar gweithdy modurol e.e. aliniwr pedair olwyn, offer sganio diagnostig.
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Y gallu i weithio'n hyblyg
Dymunol
  • Gallu gyrru bws mini'r coleg
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein