MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Gradd 5 - £26,824 - £27,694 pro rata
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Addysgu Cynhwysiad (Lefel 3) - Ysgol Bro Gwaun

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Gradd 5 - £26,824 - £27,694 pro rata

Cynorthwyydd Addysgu Cefnogi Cynhwysiant Lefel 3

37 awr yr wythnos / tymor ysgol yn unig

8.30yb - 4.30yp Llun-Iau: 8.30yb - 4.00yp Dydd Gwener

Tâl: Gradd 5 (SCP07-SCP10: £26,824- £27,694 pro rata)

Gradd 5 - £26,824 am 37 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £23,562.32 pro rata.

Gweithio dan arweiniad staff addysgu/uwch i gyflwyno rhaglenni cymorth, ymyrraeth a darpariaeth amgen o ansawdd uchel sy'n galluogi disgyblion i gymryd rhan mewn dysgu a chyflawni canlyniadau addysgol cadarnhaol.

Prif ffocws y rôl hon yw cyflwyno rhaglenni dysgu, ymyrraeth a chyfoethogi personol sy'n codi cyrhaeddiad tra'n datblygu hyder, gwytnwch ac annibyniaeth disgyblion. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi disgyblion sydd angen arweiniad ychwanegol neu ddarpariaeth amgen, gan eu helpu i ailafael mewn dysgu ac ailintegreiddio'n llwyddiannus i addysg brif ffrwd lle bo'n briodol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Ysgol Bro Gwaun yn gweithredu polisiau Diogelu Gwasanaeth Addysg Sir Benfro. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau hyn ar gyfer ein holl ddisgyblion ac yn cydnabod hawl pob un i dderbyn y gefnogaeth hon. Gweithredir hyn yn unol â blaenoriaethau ac ethos yr ysgol.

Dyddiad cau: 19 Awst 2026

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Buddion i Weithwyr

Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.

Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth: Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Cyngor Sir Benfro

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.