MANYLION.
  • Lleoliad: Barry Campus,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £20,874 - £22,047 per annum (based on FTE £29,874 - £32,423 per annum)
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 30 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Asesydd Peirianneg / IQA

Coleg Caerdydd a'r Fro

Cyflog: £20,874 - £22,047 per annum (based on FTE £29,874 - £32,423 per annum)

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn dymuno penodi Asesydd Peirianneg Drydanol / Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA) i ymuno â'n tîm Dysgu Seiliedig ar Waith.

Mae hwn yn gyfle gwych i weithiwr peirianneg proffesiynol profiadol gefnogi prentisiaid i ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector peirianneg drydanol. Gan weithio'n agos gyda chyflogwyr a phrentisiaid, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gweithgareddau asesu a sicrhau ansawdd mewnol o safon uchel sy'n cefnogi canlyniadau rhagorol i ddysgwyr.

Fel Asesydd ac IQA, byddwch yn gyfrifol am gefnogi prentisiaid drwy gydol eu rhaglen, monitro eu cynnydd, cynnal asesiadau yn y gweithle a sicrhau ansawdd a chysondeb arferion asesu ar draws y ddarpariaeth.

Beth Fyddwch Chi'n Ei Wneud

Byddwch yn rheoli llwyth achosion o brentisiaid, gan gynnal asesiadau yn y gweithle, adolygiadau cynnydd a gweithgareddau cymorth i ddysgwyr er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn aros ar y trywydd iawn i gyflawni eu cymwysterau a gwireddu eu potensial.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr i adeiladu partneriaethau cadarn, cynnal lefelau uchel o ymgysylltiad dysgwyr a chefnogi datblygiad parhaus cyfleoedd prentisiaeth. Byddwch yn darparu arweiniad ac adborth i ddysgwyr, yn cynnal cofnodion cywir ac yn sicrhau bod pob gweithgaredd yn cydymffurfio â gofynion cyrff dyfarnu a gofynion cytundebol.

Yn ogystal, byddwch yn ymgymryd â gweithgareddau Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA), gan gefnogi gwelliant ansawdd ar draws y ddarpariaeth a sicrhau bod arferion asesu yn bodloni safonau a gofynion y corff dyfarnu.

Byddwch hefyd yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol dysgwyr, gan gefnogi twf a llwyddiant parhaus rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg.

Amdanoch Chi

Byddwch yn weithiwr peirianneg proffesiynol profiadol gyda chymhwysedd galwedigaethol cryf ym maes peirianneg drydanol ac angerdd dros gefnogi datblygiad talent y dyfodol o fewn y diwydiant.

Byddwch yn meddu ar gymhwyster technegol Lefel 3 perthnasol, neu'n gallu dangos profiad diwydiannol cyfatebol yn y maes galwedigaethol sy'n cael ei asesu. Byddwch hefyd yn meddu ar gymhwyster asesu cydnabyddedig megis TAQA Lefel 3, A1, D32/D33 ac yn meddu ar Ddyfarniad Lefel 4 mewn Sicrhau Ansawdd Mewnol Prosesau ac Ymarfer Asesu.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, profiad o weithio tuag at dargedau a'r gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol gyda dysgwyr, cyflogwyr a chydweithwyr. Byddwch yn hyderus wrth ddefnyddio systemau digidol, cynnal cofnodion cywir a defnyddio data perfformiad i gefnogi cyflawniad dysgwyr ac ansawdd rhaglenni.

Mae dull hyblyg a rhagweithiol yn hanfodol, ynghyd â thrwydded yrru lawn, mynediad at eich cerbyd eich hun ac yswiriant busnes priodol, gan fod teithio yn rhan bwysig o'r rôl. Byddai sgiliau Cymraeg yn fantais.

Pam Ymuno  Ni

Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, ein gweledigaeth yw bod yn Ysbrydoledig, Cynhwysol a Dylanwadol. Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid bywydau drwy ddatgloi potensial a datblygu sgiliau, gan ddarparu addysg a hyfforddiant sy'n arwain y sector ledled y rhanbarth.

Mae ymuno â ChCaF yn golygu dod yn rhan o sefydliad cefnogol ac uchelgeisiol lle mae llwyddiant dysgwyr, arloesedd a chydweithio wrth galon popeth a wnawn. Byddwch yn cael y cyfle i wneud cyfraniad ystyrlon at ddatblygu peirianwyr medrus wrth gefnogi cyflogwyr ledled Cymru i ddiwallu eu hanghenion o ran gweithlu.

Gwybodaeth Ychwanegol

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 30 Gorffennaf 2026 am 11:59pm.

I gael rhagor o wybodaeth am Goleg Caerdydd a'r Fro, ewch i www.cavc.ac.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio yn recruitment@cavc.ac.uk .

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro. Mae'r Coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i'r broses gyfweld ac asesu gael ei chynnal yn Gymraeg.

Mae pob swydd wag yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Ni all cyflogaeth ddechrau nes bod gwiriad DBS boddhaol a chyfredol wedi'i dderbyn. Mae Gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Noder y gall rhai rolau olygu bod angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Lle bo hyn yn berthnasol, bydd cyflogaeth yn amodol ar sicrhau a chynnal y cofrestriad priodol.

Mae cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn amodol ar eirdaon boddhaol. Cyn y gall cyflogaeth ddechrau, rhaid i'r Coleg dderbyn dau eirda, a rhaid i un ohonynt fod oddi wrth eich cyflogwr presennol neu eich cyflogwr mwyaf diweddar. Cysylltir â chanolwyr yn dilyn penodiad.

Mae'r gwiriadau hyn yn rhan o'n gofynion cyn cyflogaeth a rhaid eu cwblhau'n foddhaol cyn y gall cyflogaeth ddechrau.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a chymuned ac wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu amrywiol sy'n adlewyrchu'r dysgwyr a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Fel cyflogwr balch Hyderus o ran Anabledd, rydym wedi ymrwymo i recriwtio, datblygu a chadw pobl anabl, gan sicrhau gweithle cynhwysol lle mae gan bawb y cyfle i ffynnu.