MANYLION.
  • Lleoliad: Crosskeys,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £35,596 - £51,930
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferwr Arweiniol- Y Gymraeg a Chydraddoldeb

Coleg Gwent

Cyflog: £35,596 - £51,930

Ymarferwr Arweiniol - Y Gymraeg a Chydraddoldeb
Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos

Rydym yn chwilio am Ymarferwr Arweiniol - Y Gymraeg a Chydraddoldeb brwdfrydig ac ymroddedig i gefnogi a sbarduno defnydd hyderus o'r Gymraeg ymhlith staff dysgu a dysgwyr ar draws y sefydliad. Byddwch hefyd yn hyrwyddo egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymysg dysgwyr.

Rydym yn chwilio am rywun sydd wedi ymrwymo i ddatblygu hyder, dileu rhwystrau (boed yn seicolegol neu'n ymarferol) ac annog defnydd cynyddol o'r Gymraeg drwy ddulliau creadigol, cefnogol a dysgwr-ganolog. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, angerdd dros hyrwyddo'r Gymraeg a chydraddoldeb, a'r hyblygrwydd i weithio'n gydweithredol i gyfrannu'n gadarnhaol at ddiwylliant dwyieithog deinamig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos dealltwriaeth gadarn o gaffael iaith, profiad o gefnogi staff ar wahanol lefelau, a'r gallu i wneud y Gymraeg yn hygyrch, yn berthnasol ac yn ymarferol mewn cyd-destunau gwaith a dysgu bob dydd.

Rhaid i chi fod â Cymhwyster Safon Uwch neu lefel 3 yn y Gymraeg neu bwnc cysylltiedig

Gofynion a Chydymffurfiaeth

  • Diogelu: Bydd penodiad yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â Chyngor y Gweithlu Addysg (telir y costau gan yr ymgeisydd).
  • Cymwysterau: Mae'n rhaid i ddarlithwyr feddu ar dystysgrif addysgu neu fod yn fodlon ennill un (e.e. TAR) ymhen cyfnod amser penodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Coleg Gwent yn gyflogwr Gwrth-hiliaeth, Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob hunaniaeth a phob dawn niwroamrywiol, gan annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir (ethnig leiafrifol, benywod, LGBTQ+, a phobl sydd ag anableddau). Mae'r cymorth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LGBTQ+, Anabledd, ayyb) a grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Llesiant Staff

Rydym yn darparu cymorth iechyd cynhwysfawr, gan gynnwys:

  • Mynediad at gampfeydd a gweithgareddau llesiant â chymhorthdal.
  • Mynediad at ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
  • Campysau hygyrch ac ystafelloedd gweddïo.

Dyddiad cau: 19/08/26

Dyddiad y cyfweliadau: 27/08/26