MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Crosskeys,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £28,633 - £31,055
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £28,633 - £31,055
Hwylusydd y Gymraeg a Chydraddoldeb x2Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am Hwylusydd y Gymraeg a Chydraddoldeb brwdfrydig ac ymroddedig i gefnogi a sbarduno defnydd hyderus o'r Gymraeg ymhlith dysgwyr ar draws y sefydliad. Byddwch hefyd yn hyrwyddo egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymysg dysgwyr.
Rydym yn chwilio am rywun sydd wedi ymrwymo i ddatblygu hyder, dileu rhwystrau (boed yn seicolegol neu'n ymarferol) ac annog defnydd cynyddol o'r Gymraeg drwy ddulliau creadigol, cefnogol a dysgwr-ganolog. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, angerdd dros hyrwyddo'r Gymraeg a chydraddoldeb, a'r hyblygrwydd i weithio'n gydweithredol i gyfrannu'n gadarnhaol at ddiwylliant dwyieithog deinamig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos dealltwriaeth gadarn o gaffael iaith, profiad o gefnogi dysgwyr ar wahanol lefelau, a'r gallu i wneud y Gymraeg yn hygyrch, yn berthnasol ac yn ymarferol mewn cyd-destunau gwaith a dysgu bob dydd.
Rhaid i chi fod â Cymhwyster Safon Uwch neu lefel 3 yn y Gymraeg neu bwnc cysylltiedig.
Gofynion a Chydymffurfiaeth
- Diogelu: Bydd penodiad yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â Chyngor y Gweithlu Addysg (telir y costau gan yr ymgeisydd).
- Cymwysterau: Mae'n rhaid i ddarlithwyr feddu ar dystysgrif addysgu neu fod yn fodlon ennill un (e.e. TAR) ymhen cyfnod amser penodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Coleg Gwent yn gyflogwr Gwrth-hiliaeth, Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob hunaniaeth a phob dawn niwroamrywiol, gan annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir (ethnig leiafrifol, benywod, LGBTQ+, a phobl sydd ag anableddau). Mae'r cymorth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LGBTQ+, Anabledd, ayyb) a grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Llesiant Staff
Rydym yn darparu cymorth iechyd cynhwysfawr, gan gynnwys:
- Mynediad at gampfeydd a gweithgareddau llesiant â chymhorthdal.
- Mynediad at ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
- Campysau hygyrch ac ystafelloedd gweddïo.
Dyddiad cau: 19/08/26
Dyddiad y cyfweliadau: 27/08/26