MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Gradd 7 - £32,061 - £35,412 \/ Gradd 8 - £36,363 - £40,777 pro rata - yn dibynnu ar gymwysterau
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 22 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Therapydd Chwarae - Canolfan Ddysgu Sir Benfro

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Gradd 7 - £32,061 - £35,412 \/ Gradd 8 - £36,363 - £40,777 pro rata - yn dibynnu ar gymwysterau

Therapydd chwarae

Canolfan Ddysgu Sir Benfro

Gradd 7 £32,061 i £35,412 / Gradd 8 £36,363 i £40,777 pro rata (yn dibynnu ar gymwysterau)

32.5 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig (45.8 wythnos y flwyddyn)

Croesewir ceisiadau gan therapyddion chwarae cymwys yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio tuag at gofrestru neu'n cwblhau cymhwyster therapi chwarae cydnabyddedig ar hyn o bryd.

Ydych chi'n credu y gall chwarae helpu plant i wneud synnwyr o brofiadau anodd, meithrin gwydnwch a chyrraedd eu potensial?

Mae Canolfan Ddysgu Sir Benfro yn chwilio am therapydd chwarae medrus a thosturiol i gefnogi plant a phobl ifanc y gallai eu lles emosiynol, eu profiadau bywyd neu eu hanghenion ychwanegol fod yn effeithio ar eu dysgu a'u datblygiad.

Ynglŷn â Chanolfan Ddysgu Sir Benfro

Mae Canolfan Ddysgu Sir Benfro yn darparu addysg a chymorth arbenigol i blant a phobl ifanc ar draws nifer o ddarpariaethau dysgu ledled Sir Benfro.

Gan weithio'n agos gydag ysgolion prif ffrwd, rydym yn helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau i addysg trwy ymyriadau wedi'u targedu, cyfleoedd dysgu hyblyg a chymorth bugeiliol cryf. Ein nod yw helpu dysgwyr i feithrin hyder, datblygu sgiliau allweddol a chyflawni canlyniadau cadarnhaol, boed hynny wrth ddychwelyd i addysg brif ffrwd neu wrth symud ymlaen i addysg bellach.

Yng Nghanolfan Ddysgu Sir Benfro, mae perthnasoedd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gweithio'n agos gyda dysgwyr, teuluoedd ac asiantaethau partner i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ffynnu.

Y rôl

Fel therapydd chwarae, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi heriau emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol.

Drwy ddefnyddio chwarae a dulliau therapiwtig creadigol, gan gynnwys adrodd straeon, celf a chwarae â thywod, byddwch yn helpu dysgwyr i brosesu trawma, meithrin gwydnwch emosiynol a goresgyn rhwystrau i ddysgu.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda staff ysgolion, teuluoedd ac asiantaethau allanol i ddarparu cymorth therapiwtig a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n bodloni'r canlynol:
  • Yn meddu ar (neu'n gweithio tuag at) gymhwyster therapi chwarae cydnabyddedig ac wedi'i gofrestru gyda PTUK (Therapi Chwarae y DU), BAPT (Cymdeithas Therapyddion Chwarae Prydain) neu gorff proffesiynol cyfatebol.
  • Yn meddu ar brofiad o weithio mewn modd therapiwtig gyda phlant a phobl ifanc.
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth gref o ddatblygiad plant, ymlyniad, ymarfer sy'n ystyriol o drawma a lles emosiynol.
  • Yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol â phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol
  • Wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella canlyniadau i ddysgwyr sy'n agored i niwed.
Pam ymuno â ni?
  • Patrwm gweithio yn ystod y tymor yn unig
  • Cydbwysedd rhagorol rhwng bywyd a gwaith gyda gwyliau ysgol
  • Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Goruchwyliaeth broffesiynol a chyfleoedd datblygu parhaus
  • Tîm amlddisgyblaethol cefnogol a phrofiadol
  • Y cyfle i newid trywydd bywyd plentyn trwy gymorth ac ymyrraeth therapiwtig
Os ydych chi'n angerddol am helpu plant a phobl ifanc i oresgyn heriau a chyflawni eu potensial llawn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.

Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth: Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Cyngor Sir Benfro

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.