MANYLION.
  • Lleoliad: Cwmbran,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £60,884
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Maes Cwricwlwm- Sgiliau (x4)

Coleg Gwent

Cyflog: £60,884

Rheolwr Maes Cwricwlwm - Sgiliau (x4)
Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain a ffurfio dull cyflenwi Saesneg, Mathemateg a Sgiliau ar lefel campws, wrth hefyd fod yn gyfrifol am faes pwnc sydd wedi'i alinio â'ch arbenigedd. Bydd y Rheolwr Maes Cwricwlwm - Sgiliau yn arwain, yn ysgogi ac yn cefnogi aelodau staff i gyflenwi darpariaeth o safon uchel ar draws cymwysterau TGAU, Sgiliau Hanfodol, Dysgu Uwch a Bagloriaeth Sgiliau Uwch gan sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynnwys ar y llwybr cymwysterau cywir a'u bod yn cael profiad dysgu cynhwysol, ymgysylltiol a chefnogol.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus yrru gwelliannau ym meysydd addysgu, dysgu, asesu, presenoldeb, cyrhaeddiad a dilyniant gan ddefnyddio data dysgwyr a phrosesau sicrwydd ansawdd i hysbysu'r broses o wneud penderfyniadau a gwella parhaus. Fel yr arweinydd ledled y coleg ar gyfer ei faes pwnc arbenigedd, bydd yn cefnogi cysondeb o ran cyflenwi cwricwlwm, sicrwydd ansawdd, safoni a chymedroli ar draws pob campws. Bydd hefyd yn chwarae rôl allweddol o ran plannu llythrennedd, rhifedd, sgiliau digidol a datblygu'r iaith Gymraeg ar draws dysgu ac addysgu wrth weithio'n agos â thimau'r cwricwlwm, Anghenion Dysgu Ychwanegol a thimau cymorth i sicrhau bod dysgwyr wedi'u cefnogi'n dda ac yn gallu cyflawni eu potensial llawn.

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Gofynion a Chydymffurfiaeth

  • Diogelu: Mae'r penodiad yn amodol ar ddal gwiriad DBS Manwl boddhaol a bod yn gofrestredig gyda'r CGA (rhaid i'r ymgeisydd dalu'r costau).
  • Cymwysterau: Rhaid i ddarlithwyr feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn barod i'w gyflawni (e.e. TAR) o fewn cyfnod penodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyflogwr gwrth-hiliol a Hyderus o ran Anabledd yw Coleg Gwent, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob math o hunaniaeth a dawn niwroamrywiol, ac anogwn geisiadau oddi wrth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Lleiafrifoedd Ethnig, Benywod, pobl LHDTC+ a phobl ag anableddau) yn arbennig. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LHDTC+, Anabledd, ayyb) a Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Llesiant Staff

Rydym yn darparu cefnogaeth iechyd gynhwysfawr sy'n cynnwys:
  • Mynediad i'r gampfa a gweithgareddau lles â chymhorthdal.
  • Mynediad i ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
  • Campysau ac ystafelloedd gweddïo hygyrch.

Dyddiad Cau: 29/07/26

Dyddiad Cyfweliad: 05/08/26