MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 07 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Ysgol Myrddin

Cyngor Sir Caerfyrddin
Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 3658

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyflog o:

L12 - £69,088

Cyflog i:

L18* - £79,288

Oriau Contract:

Llawn Amser

Dewch i ymuno â'n tîm

Ydych chi'n arweinydd ysbrydoledig a thosturiol sy'n credu y gall pob plentyn lwyddo, waeth beth fo'u man cychwyn neu eu hanghenion unigol?

Mae Ysgol Myrddin yn chwilio am Bennaeth eithriadol i arwain ein cymuned ysgol unigryw a gwerthfawr i'w chyfnod nesaf. Mae hwn yn gyfle cyffrous i uwch arweinydd profiadol sydd â'r weledigaeth, yr arbenigedd a'r penderfyniad i adeiladu ar ein cryfderau a sicrhau'r deilliannau gorau posibl i'n holl ddysgwyr.

Mae Ysgol Myrddin yn ysgol gynradd gynhwysol cyfrwng Saesneg sy'n gwasanaethu 120 o ddisgyblion 3-11 oed yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal â'i darpariaeth brif ffrwd, mae'r ysgol yn cynnal darpariaeth ADY arbenigol sefydledig sy'n cefnogi dysgwyr ag awtistiaeth, anawsterau dysgu difrifol a dwys, namau synhwyraidd ac anghenion dysgu ychwanegol cymhleth. Mae'r ysgol yn cael ei chydnabod am ei hethos ofalgar, ei hymrwymiad cryf i gynhwysiant a'i dull personol o ddysgu, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gefnogi i gyflawni ei botensial llawn.

Yn Ysgol Myrddin, mae perthnasoedd wrth galon popeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, ymdeimlad o berthyn, lles a disgwyliadau uchel, wedi'u hategu gan ddulliau perthynol ac adferol sy'n galluogi disgyblion, staff a theuluoedd i ffynnu.

Rydym yn chwilio am arweinydd sy'n:
  • Meddu ar weledigaeth gadarn ar gyfer cynhwysiant, tegwch a rhagoriaeth, ac sy'n uchelgeisiol dros bob dysgwr.
  • Arwain gydag uniondeb, empathi a dilysrwydd, gan greu diwylliant lle mae pob disgybl ac aelod o staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u grymuso i lwyddo.
  • Yn gwbl ymroddedig i ymarfer perthynol ac adferol, gan ddeall pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol wrth sicrhau lles, ymgysylltiad a chyflawniad.
  • Yn meddu ar hanes cryf o arweinyddiaeth lwyddiannus a gwelliant ysgol.
  • Yn dangos sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gan adeiladu partneriaethau cryf gyda disgyblion, teuluoedd, llywodraethwyr, yr Awdurdod Lleol, cydweithwyr iechyd ac asiantaethau ehangach.
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth ddofn o Anghenion Dysgu Ychwanegol ac ymarfer cynhwysol, gyda'r arbenigedd i ddatblygu ymhellach ddarpariaeth arbenigol
  • Yn gallu ysgogi gwelliant parhaus drwy wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau addysgu, dysgu a chymorth o ansawdd uchel i bob disgybl.
  • Yn deall pwysigrwydd lles disgyblion a staff ac yn rhoi blaenoriaeth i greu amgylchedd gofalgar lle gall pawb ffynnu.
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o Gwricwlwm i Gymru ac ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu uchelgeisiol, dilys ac ystyrlon.

Gallwn gynnig:
  • Disgyblion gwych sy'n frwdfrydig, yn wydn ac yn awyddus i ddysgu.
  • Tîm staff talentog, ymroddedig a gofalgar sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth bob dydd.
  • Llywodraethwyr cefnogol ac uchelgeisiol sy'n angerddol am ddyfodol yr ysgol.
  • Partneriaethau cryf gyda theuluoedd, asiantaethau allanol a'r gymuned ehangach.
  • Diwylliant sy'n gwerthfawrogi cydweithio, lles, twf proffesiynol a gwelliant parhaus.
  • Cyfleoedd dysgu proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth o ansawdd uchel.
  • Y cyfle i wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant a phobl ifanc mewn cymuned ysgol wirioneddol gynhwysol.

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf fel Pennaeth feddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Byddwn yn fodlon ystyried ymgeiswyr sydd ar garfan gyfredol rhaglen CPCP.

Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS Manwl (Enhanced DBS).

Os hoffech ymweld â'r ysgol, cysylltwch â Chadeirydd y Llywodraethwyr, Helen Meredith Smith, ar 07967 754244.

Dyddiad Cau: Dydd Llun, 7fed o Fedi 2026

Llunio'r Rhestr Fer: Dydd Iau, 10fed o Fedi 20246

Cyfweliadau: Dydd Mawrth a Dydd Mercher 22ain a'r 23ain o Fedi 2026

Disgrifiad Swydd:

26-07-14 - HT Recruitment Pack - Myrddin - Bilingual.pdf - 960KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

22 Medi 2026

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 07/09/2026, 23:55

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Hawl i weithio: Rhaid i bob cyflogwr yn y DU gynnal gwiriad Hawl i Weithio cyn i weithiwr newydd ddechrau gwaith. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 ac mae'n berthnasol i bob gweithiwr, waeth beth fo'u cenedligrwydd.

Gofynnir i bob ymgeisydd am ei genedligrwydd ac a ganiateir iddo weithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Pwrpas hyn yw cadarnhau a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag ac i weithio i'r Cyngor neu ei sefydliadau partner.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwydded nawdd ddilys. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd angen nawdd o dan y llwybr Gweithiwr Medrus fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau. Cyn cyflwyno cais, dylech wirio a yw'r rôl yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU: Skilled Worker visa: Overview - GOV.UK . Sylwer: Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach nad ydych chi'n gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.