MANYLION.
  • Lleoliad: Cwmbran,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,596 - £51,930
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd- Saesneg (TGAU)

Coleg Gwent

Cyflog: £33,596 - £51,930

Darlithydd - Saesneg (TGAU)
Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos

A oes gennych gred gadarn ym mhotensial pob dysgwr? A ydych yn myfyrio ar ddulliau dysgu newydd ac yn eu datblygu? Os yw hyn yn swnio fel chi, rydym yn awyddus i glywed gennych.

Dylech fod yn:
  • Athro cymwysedig gyda phrofiad o addysgu TGAU Saesneg CBAC.

Dylech gael:
  • Strategaethau arloesol i ennyn diddordeb dysgwyr a'u helpu i gyflawni eu llawn botensial.
  • Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus o fewn yr amserlen gyflawni.
  • Dealltwriaeth o sicrhau ansawdd ac asesu.
  • Dealltwriaeth o anghenion amrywiol dysgwyr.

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Gofynion a Chydymffurfiaeth

  • Diogelu: Mae'r penodiad yn amodol ar ddal gwiriad DBS Manwl boddhaol a bod yn gofrestredig gyda'r CGA (rhaid i'r ymgeisydd dalu'r costau).
  • Cymwysterau: Rhaid i ddarlithwyr feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn barod i'w gyflawni (e.e. TAR) o fewn cyfnod penodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyflogwr gwrth-hiliol a Hyderus o ran Anabledd yw Coleg Gwent, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob math o hunaniaeth a dawn niwroamrywiol, ac anogwn geisiadau oddi wrth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Lleiafrifoedd Ethnig, Benywod, pobl LHDTC+ a phobl ag anableddau) yn arbennig. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LHDTC+, Anabledd, ayyb) a Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Llesiant Staff

Rydym yn darparu cefnogaeth iechyd gynhwysfawr sy'n cynnwys:
  • Mynediad i'r gampfa a gweithgareddau lles â chymhorthdal.
  • Mynediad i ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
  • Campysau ac ystafelloedd gweddïo hygyrch.

Dyddiad Cau: 29/07/26

Dyddiad Cyfweliad: 04/08/26