MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Dolgellau,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £30,575 - £32,622 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 25 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £30,575 - £32,622 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae AdranAdeiladwaith Coleg Meirion-Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewnystod o ddisgyblaethau adeiladwaith. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gydamynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern. O fewn yr adran, mae gennym ddau safle; Hafan(Pwllheli) a CaMDA (Dolgellau), mae'r ddarpariaeth Adeiladwaith wedi'illeoli yng NghaMDA (Dolgellau).Rydym ynchwilio am aelod o staff llawn amser parhaol i ymuno ag Adran Adeiladwaith yColeg; a rydym yn barod i gyflogi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sydd âphrofiad yn y maes Adeiladwaith, yn benodol y maes Gwaith Brics.
Mae'r adran yncynnig darpariaeth eang sy'n cynnwys cyrsiau amser llawn, rhan-amser,prentisiaethau a'r cwricwlwm 14-16. Ar hyn o bryd mae gennym dîm cryf oddarlithwyr Adeiladwaith ym meysydd plastro, gwaith brics, gwaith coed aplymio, ynghyd â staff goruchwylio sgiliau ymarferol mewn meysydd gan gynnwysplymio, plastro a gwaith coed, ac aelodau staff sy'n gweithio'n benodol gyda'rddarpariaeth brentisiaethau. Rydym yn edrych am aelod o staff fydd yn ategu athyn ac yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus yr adran.
Bydd rôl ygoruchwyliwr sgilau ymarferol yn cynnwys gweithio o dan arweiniad y darlithyddi ddarparu addysg ddwyieithog o safon uchel i ddysgwyr ar ystod o gymwysterau alefelau, gan gynnwys Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 3, ar raglenni llawn amser, rhanamser a phrentisiaethau. Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a chyflwyno sesiynauymarferol yn y gweithdy, cynnal ymweliadau safle ac asesu gwaith ar y safle panfo angen, a darparu cymorth parhaus i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyflegorau i lwyddo.
Mae cysylltiadcryf â'r ddarpariaeth 14-16 yn hanfodol, gyda disgwyliad i'r ymgeisyddllwyddiannus gyfrannu at ddarpariaeth addysg o safon o 14-16 ymlaen i addysgbellach a dysgu seiliedig ar waith. Disgwylir hefyd rôl rhagweithiol wrthgefnogi'r darlithydd â'r tîm i ddatblygu'r cyrsiau a darpariaeth Gwaith Brics,gan sicrhau bod dysgwyr yn ganolog i bopeth a wnawn.
Bydd disgwyli'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu mewngweithdy a chefnogi'r darlithydd i ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniadparhaus sy'n hyrwyddo llwyddiant dysgwyr. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygueich sgiliau proffesiynol er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i ddysgwyr ac ihelpu i symud yr adran yn ei blaen.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/309/26
Cyflog
£30,575 - £32,622 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Dolgellau
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
40 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
25 Awst 2026
12:00 YH(Ganol dydd)