MANYLION.
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 25 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Darparu dysgu, addysgu ac asesu o ansawdd uchel ar draws y ddarpariaeth Addysg Bellach ar Lefelau 1 i 3, gan gynnwys darpariaeth y bartneriaeth ysgolion a Bagloriaeth Cymru, ynghyd â'r ddarpariaeth Addysg Uwch ar y radd Hyfforddi Chwaraeon a Gwyddor Perfformiad (Lefelau 4 i 6). Bydd y ddarpariaeth Addysg Uwch yn cynnwys modiwlau arbenigol, a dyraniad y modiwlau wedi'i adolygu i adlewyrchu meysydd arbenigedd a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau profiad dysgu rhagorol, gan alluogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial academaidd, galwedigaethol a phersonol yn llawn. Byddant yn cyfrannu at gyflawni safonau uchel cyson o fewn eu maes pwnc drwy gynllunio, asesu a chefnogi dysgwyr yn effeithiol.

Mae'r rôl yn cynnwys cynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu deniadol, cynhwysol ac arloesol, gan gyfrannu at ddatblygiad parhaus cwricwlwm AB ymatebol sy'n berthnasol i'r diwydiant, a'r radd Hyfforddi Chwaraeon a Gwyddor Perfformiad (Lefelau 4 i 6), gan gefnogi cadw dysgwyr, ynghyd â'u cynnydd a'u cyflawniad. Bydd deiliad y swydd hefyd yn ymgymryd â chyfrifoldebau yn ymwneud ag arwain y maes rhaglen ac yn cyflawni rôl tiwtor personol, gan ddarparu goruchwyliaeth academaidd, monitro perfformiad a chefnogi llesiant dysgwyr.

Mae'r prif gyfrifoldebau'n cynnwys sicrhau cyfleoedd dysgu effeithiol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr, cyfrannu at gynnig darpariaeth allgyrsiol o ansawdd uchel, a chynnal safonau uchel o ran addysgu, asesu a chefnogi dysgwyr. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â pholisïau'r sefydliad, prosesau sicrhau ansawdd a gofynion rheoleiddio ar draws Addysg Bellach, Addysg Uwch a darpariaeth y bartneriaeth ysgolion.

Bydd y darlithydd yn cefnogi, yn ysgogi ac yn herio dysgwyr mewn modd gweithredol i gyrraedd a rhagori ar eu targedau, gan hyrwyddo diwylliant o ddisgwyliadau uchel, gwelliant parhaus a chynnydd cadarnhaol ar draws yr holl raglenni y maent yn eu cyflwyno.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/308/26

Cyflog
£33,595 - £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol (pro rata).

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.

Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio o'r safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
25 Awst 2026
12:00 YH(Ganol dydd)