MANYLION.
  • Lleoliad: Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Busnes a Bagaloriaeth Cymru, Tymor yn Unig, Dros Dro

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau

Mae Adran Fusnes Coleg Menai yn faes rhaglen cyffrous sy'n cynnig ystod o gyrsiau o Lefel 2 hyd at Lefel 3. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm sy'n tyfu, gan feithrin amgylchedd dysgu ysbrydoledig sy'n annog arloesedd a thwf proffesiynol.

Prif bwrpas y rôl hon yw darparu addysg o ansawdd uchel a darparu cefnogaeth gynhwysfawr i'n dysgwyr, gan sicrhau eu bod wedi'u grymuso i gyflawni eu potensial llawn. Fel aelod allweddol o'r tîm, byddwch yn dylunio ac yn cyflwyno gwersi deniadol, yn rheoli asesiadau dysgwyr effeithiol, ac yn darparu arweiniad academaidd hanfodol.

Byddwch yn cynnal y safonau addysgu uchaf, gan gyfrannu at ddatblygiad ein dysgwyr a llwyddiant parhaus yr adran Fusnes wrth iddi barhau i ehangu.

Yn ogystal, byddwch yn cyflwyno ac yn asesu amrywiaeth o gymwysterau atodol, gan gydweithio ar draws adrannau ar bynciau fel Agored, Addysg Gysylltiedig â Gwaith, a Dysgu Cyflymedig.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/305/26

Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau

Lleoliad Gwaith
  • Bangor

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos. Patrwm gwaith I'w gytuno gyda'r Rheolwr Maes Rhaglen.

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 33.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

34 wythnos y flwyddyn

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
19 Awst 2026
12:00 YH(Ganol dydd)