MANYLION.
  • Lleoliad: Ial,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £57,464 - £64,306
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 05 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Dysgu Cymraeg CC/3127

Coleg Cambria

Cyflog: £57,464 - £64,306

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Cyfarwyddwr Cwricwlwm - Dysgu Cymraeg

Lleoliad: Iâl

Math o Gontract: Llawn Amser / Parhaol (Dyddiad cychwyn 4 Ionawr 2027)

Cyflog: £57,464 - £64,306

Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer Cyfarwyddwr Cwricwlwm yn ein Tîm Dysgu Cymraeg, wedi'i lleoli ar ein safle Iâl. Mae Coleg Cambria yn darparu cyrsiau Dysgu Cymraeg (Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain) ar ran y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, gan gyflwyno dosbarthiadau iaith Gymraeg yn y gymuned ac ar-lein ar wahanol adegau drwy gydol y dydd a'r nos.

Bydd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm yn darparu rheoli effeithiol ar gyfer adran cwricwlwm diffiniedig yng Ngholeg Cambria, gan fodloni anghenion dysgwyr, partneriaid ysgolion, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod canlyniadau dysgwyr o ansawdd uchel yn cael eu darparu a hyrwyddo diwylliant o ragoriaeth, cynhwysiant a chyfle cyfartal.

Prif Gyfrifoldebau

Mae cyfrifoldebau arwain yn cynnwys ymddwyn fel rheolwr atebol ar gyfer adroddiadau uniongyrchol o fewn y cwricwlwm penodedig, ymgymryd â gwaith recriwtio, ymsefydlu, datblygiad, prosesau rheoli perfformiad, a rheoli canllawiau iechyd a diogelwch. Bydd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm hefyd yn adnabod anghenion datblygu staff ac yn cyfrannu at reoli'r safle lleol.

O ran y Cwricwlwm, bydd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm yn ymgymryd ag amser cyswllt dysgwyr ar gyfer gweithgareddau fel addysgu, mentora, digwyddiadau a rhagor. Mae'r swydd yn cynnwys ymgysylltu â dysgwyr a rhanddeiliaid, datblygu a chyflwyno rhaglenni cwricwlwm effeithlon, arloesedd parhaus mewn ymarferion addysgu a dysgu, ac ymgysylltu â chyflogwyr a chyrff dyfarnu i sicrhau aliniad gydag anghenion presennol a'r dyfodol. Bydd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm yn goruchwylio dilysu, arolygu, a monitro'r adran gan asiantaethau mewnol ac allanol.

Bydd rheoli ansawdd yn cynnwys arwain ar safonau ansawdd cwricwlwm, hunanasesu, a chynlluniau gwella ansawdd ar gyfer yr adran. Bydd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm yn cydlynu gweithgareddau ansawdd ac yn sicrhau cydymffurfiad â gweithdrefnau'r coleg, ynghyd â rheoli risgiau a allai niweidio enw da a hyfywedd ariannol y coleg. Yn ogystal, fel darparwr Dysgu Cymraeg, bydd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm yn cydweithio'n agos â'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'u holl gwricwlwm a phrosesau ansawdd.

Mae cyfrifoldebau ariannol yn cynnwys rheoli'r gyllideb ariannol ac adnoddau ar gyfer yr adran yn effeithiol. Bydd y Cyfarwyddwr Cwricwlwm hefyd yn rhagweithiol mewn datblygiad personol a phroffesiynol, sicrhau safonau derbyniol o ymddygiad i ddysgwyr ar bob safle, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol yn ôl y cyfarwyddyd.

Gofynion Hanfodol

Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth.

Cymhwyster addysgu neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny

Cymhwyster Rheoli neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny

Gallu dangos profiad blaenorol neu'r gallu i arwain, hyfforddi ac ysbrydoli tîm.

Profiad blaenorol diweddar yn gweithio yn y sector addysg

Hanfodol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig