MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £25,876 - £28,078 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,876 - £28,078 / blwyddyn
Mentor LlesApplication Deadline: 10 September 2026
Department: Lles
Employment Type: Cyfnod Penodol - Llawn Amser
Location: Campws Pibwrlwyd
Compensation: £25,876 - £28,078 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (y Coleg) wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae'r coleg yn dymuno penodi Mentor Lles i ddarparu cymorth wedi'i anelu'n bennaf at ddysgwyr a darpar ddysgwyr sydd mewn mwyaf o berygl o fod yn NEET (Ddim mewn Gwaith, Addysg neu Hyfforddiant). Bydd gwaith y Mentor Lles yn galluogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i ddysgu yn well a chyflawni deilliannau dysgwyr llwyddiannus.
Bydd gwaith y Mentor Lles yn ategu rhwydwaith cymorth ehangach y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr o fewn y Coleg a gweithgareddau o fewn Meysydd Cwricwlwm. Bydd y gwaith yn gofyn am lefel uchel o gydweithio â staff eraill ar draws y Coleg.
Cyfrifoldebau AllweddolFel aelod o'r Tîm Lles bydd disgwyl i'r Mentor Lles ymgymryd â'r dyletswyddau canlynol i gyflawni'r deilliannau canlynol:
- Darparu cymorth Mentora i ddysgwyr unigol wedi'u targedu;
- Ymgymryd â gweithdrefnau atgyfeirio ac asesu;
- Cwblhau a chynnal dogfennaeth fewnol a systemau TG perthnasol fel bod modd mesur effaith ac ymyriadau;
- Cyfrannu at waith y coleg ar ddiogelu yn unol â'r polisi a phrosesau adrodd;
- Mynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd mewnol perthnasol megis gwrandawiadau disgyblu, adolygiadau dysgwyr, cyfarfodydd llwyth achosion, cyfarfodydd tîm, ac ati, lle bo hynny'n berthnasol.
- Mynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd allanol megis Cynadleddau Amddiffyn Plant, ac ati, lle bo hynny'n berthnasol.
- Datblygu, hwyluso a chyflwyno gweithgareddau cyfoethogi ar y campws ar gyfer dysgwyr.
- Hyrwyddo ymddygiad positif yn unol â gwerthoedd y coleg sef Bod yn Barod, Bod yn Barchus a Bod yn Ddiogel;
- Datblygu, hwyluso a chyflwyno gweithgareddau pontio gyda'r nod o gefnogi dysgwyr i mewn i'r coleg;
- Hyrwyddo a chefnogi blaenoriaethau lles ehangach y Dysgwyr ar draws y coleg megis Llais y Dysgwr, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Diogelu a Lles, Cariad, Mentora Cymheiriaid, Cyflogadwyedd, Gwirfoddoli, ac ati;
- Cysylltu ag adrannau mewnol gan gynnwys gwasanaethau eraill o fewn Cefnogi Dysgwyr, Cymorth Dysgu, Meysydd Cwricwlwm, Cludiant, ac ati;
- Cysylltu â phartneriaid a budd-ddeiliaid allanol i ddarparu cefnogaeth ac atgyfeirio effeithiol;
- Darparu cymorth o bell i ddysgwyr yn ôl yr angen, gan gynnwys i ddysgwyr ar draws yr holl gampysau ar adegau;
- Cysylltu â chydweithwyr, darparwyr cymorth allanol a theuluoedd myfyrwyr lle bo hynny'n briodol i sicrhau eich bod yn cyfrannu'n effeithiol i becyn cyffredinol o gymorth ar gyfer eich myfyrwyr;
- Cefnogi dysgwyr i fynychu ymweliadau a drefnwyd oddi ar y campws lle bo hynny'n berthnasol;
- Mynychu hyfforddiant perthnasol a chynnal eich cofnodion DPP eich hun;
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Hanfodol
- *Cymhwyster Sgiliau Cynghori
- ASIST Ardystiedig
- Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Ardystiedig
- TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc ag ystod o anghenion cymorth dysgu a chymorth personol
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i uniaethu â'r grŵp targed
- Cymhwyster ar Lefel 3 neu uwch
- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein