MANYLION.
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £42,839 - £47,181
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 23 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Gweithredol - Hyrwyddo'r Gymraeg, Partneriaethau a Siarter Iaith

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £42,839 - £47,181

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 3552

Sefydliad:

Cyngor Sir Caerfyrddin

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Gradd J

Cyflog:

£42,839 - £47,181

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£22.20 - £24.46

Oriau Contract:

37awr

Dewch i ymuno â'n tîm

Cyngor Sir Caerfyrddin

Gwasanaeth y Gymraeg mewn Addysg

Yn eisiau erbyn 1 Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny

Swyddog Gweithredol - Hyrwyddo'r Gymraeg, Partneriaethau a Siarter Iaith

Gradd: Gradd J
Llawn Amser, Cytundeb Parhaol

Cyfle Cyffrous i Gefnogi Datblygiad y Gymraeg mewn Addysg

Dyma gyfle eithriadol i wneud effaith sylweddol ar ddyfodol y Gymraeg mewn addysg a chymunedau ledled Sir Gâr. Os ydych yn angerddol am hyrwyddo'r Gymraeg, adeiladu partneriaethau cryf a chefnogi newid cadarnhaol, gallai hon fod yn rôl berffaith i chi.
  • Ydych chi'n gallu ysbrydoli ysgolion a chymunedau i gynyddu defnydd o'r Gymraeg?
  • A allwch chi arwain rhaglenni strategol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr?
  • Ydych chi'n hyderus wrth weithio gyda rhan-ddeiliaid amrywiol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol?

Gweledigaeth Gwasanaeth Y Gymraeg mewn Addysg yw: G rymuso pob dysgwr i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus a balch.

Maeeingwerthoeddcraiddyndisgrifio'regwyddorionsy'neinharwain,ynsiapioeihymddygiadacyndiffiniopwyydymnifeltîmagwasanaeth:

Cymreictod - Creadigrwydd - Cydraddoldeb - Dyfalbarhad

Y Rôl

Rydym yn chwilio am Swyddog Gweithredol uchelgeisiol, proffesiynol ac ymroddedig i arwain a datblygu'r gwaith o hybu a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg a gweithrediad effeithiol y Siarter Iaith/Siarter Iaith Cymraeg Campus ledled y sir.

Bydd y deiliad yn:
  • Datblygu a chryfhau partneriaethau aml-asiantaeth i sicrhau cynnydd cynaliadwy mewn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg a phrofiadau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Arwain gweithrediad y Siarter Iaith a Chymraeg Campus, gan gynnwys cynllunio, hyrwyddo, dysgu proffesiynol, rhannu arfer a dilysu gwobrau
  • Dylunio a chyflwyno rhaglenni targedig i hyrwyddo addysg Gymraeg a phrofiadau cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a chymunedau
  • Cydlynu cyllidebau perthnasol a sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau
  • Cynhyrchu adroddiadau effaith seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer uwch swyddogion, aelodau etholedig a Llywodraeth Cymru
  • Cefnogi gweithrediad Strategaeth Hybu'r Gymraeg Corfforaethol
  • Hyrwyddo'r defnydd a datblygiad y Gymraeg ymysg staff mewnol yr Adran Addysg a Hamdden
  • Gweithio gyda darparwyr blynyddoedd cynnar, iechyd ac ôl‑16 i gryfhau llwybrau cyfrwng Cymraeg
  • Cadeirio ac arwain Tîm Gyrru Deilliant 5 y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA), gan sicrhau llywodraethu cadarn ac atebolrwydd clir

Yr Hyn Rydym yn Chwilio Amdano

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â:
  • Dealltwriaeth gadarn o'r Siarter Iaith, Cymraeg Campus ac addysg Gymraeg
  • Sgiliau arweinyddiaeth, dylanwadu a chyfathrebu rhagorol
  • Profiad o arwain prosiectau, partneriaethau a mentrau iaith
  • Gallu dadansoddol cryf a'r gallu i ddefnyddio data i lywio penderfyniadau
  • Profiad o gynhyrchu adroddiadau, hwyluso cyfarfodydd a darparu hyfforddiant
  • Sgiliau dwyieithog rhagorol (Cymraeg a Saesneg - Lefel 5)

Beth allwn ni ei gynnig
  • Cyfle i arwain gwaith sy'n siapio dyfodol y Gymraeg mewn addysg mewn awdurdod lleol mawr
  • Amgylchedd gwaith cefnogol, uchelgeisiol a chydweithredol
  • Cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol
  • Profiad gwerthfawr o weithio ar lefel system o fewn awdurdod lleol
  • Diwylliant sy'n gwerthfawrogi lles staff, cydraddoldeb a chydweithio

Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth?

Os ydych yn arloesol, yn broffesiynol ac yn angerddol am hyrwyddo'r iaith Gymraeg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Am sgwrs anffurfiol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â: Chris Newcombe - CJNewcombe@sirgar.gov.uk

Disgrifiad Swydd:

Proffil Swydd - Swyddog Gweithredol Hybu Hyrwyddo Partneriaethau a Siarter Iaith.pdf - 280KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 23/07/2026, 12:00

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.