MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ebbw Vale,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £13,194 - £25,965
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £13,194 - £25,965
Darlithydd - BusnesSwydd ddisgrifiad
18.5 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Astudiaethau Busnes.
Bydd gennych radd mewn Astudiaethau Busnes neu gymhwyster priodol arall o fewn y meysydd pwnc. Bydd gofyn i chi ymgymryd ag ystod o weithgareddau addysgu a chyfrannu'n effeithiol at waith tîm. Byddwch yn gymwysedig TAR (neu'n barod i weithio tuag at hyn) a rhaid bod gennych brofiad o addysgu BTEC Busnes.
Bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Gofynion a Chydymffurfiaeth
- Diogelu: Mae'r penodiad yn amodol ar ddal gwiriad DBS Manwl boddhaol a bod yn gofrestredig gyda'r CGA (rhaid i'r ymgeisydd dalu'r costau).
- Cymwysterau: Rhaid i ddarlithwyr feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn barod i'w gyflawni (e.e. TAR) o fewn cyfnod penodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cyflogwr gwrth-hiliol a Hyderus o ran Anabledd yw Coleg Gwent, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob math o hunaniaeth a dawn niwroamrywiol, ac anogwn geisiadau oddi wrth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Lleiafrifoedd Ethnig, Benywod, pobl LHDTC+ a phobl ag anableddau) yn arbennig. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LHDTC+, Anabledd, ayyb) a Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Llesiant Staff
Rydym yn darparu cefnogaeth iechyd gynhwysfawr sy'n cynnwys:
- Mynediad i'r gampfa a gweithgareddau lles â chymhorthdal.
- Mynediad i ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
- Campysau ac ystafelloedd gweddïo hygyrch.
Dyddiad Cau: 15/07/26
Dyddiad Cyfweliad: 22/07/26