MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Dolgellau,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £12,404.14 - £13,314.39 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 24 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Hwylusydd Cymorth Astudio (Mathemateg/Rhifedd), Tymor yn Unig, Dolgellau
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £12,404.14 - £13,314.39 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y Swydd -Gweithio fel aelod o'r Tîm ADY i roi cymorth astudio o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, sy'n hyrwyddo annibyniaeth, yn meithrin hyder ac yn cryfhau sgiliau academaidd a threfnu hanfodol.
Mae cymorth astudio yn galluogi dysgwyr i ddeall sut maen nhw'n dysgu orau, goresgyn rhwystrau a datblygu strategaethau sy'n caniatáu iddyn nhw ddilyn, cymryd rhan yn a gwneud cynnydd llwyddiannus gyda'u hastudiaethau.
Gellir rhoi'r cymorth yn y Ganolfan Astudio, ar-lein, neu yn ystod sesiynau cyfnos (cyfnos 5-8pm) i sicrhau darpariaeth hyblyg ac ymatebol.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/279/26
Cyflog
£12,404.14 - £13,314.39 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Dolgellau
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
19.5 awr yr wythnos
38 wythnos y flwyddyn (i'w gytuno a gall gynnwys rhai cyfnodau gwyliau)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
24 Gorff 2026
12:00 YH(Ganol dydd)