MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Gradd 4 – £25,989 (£24,584 Pro Rata)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Safle - YGG Abercynon

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Gradd 4 – £25,989 (£24,584 Pro Rata)

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002503 Dyddiad postio 26/06/2026 Dyddiad cau ceisiadau 10/07/2026 Cyflog Gradd 4 - £25,989 (£24,584 Pro Rata) Oriau gwaith 35 Ar sail Rhan amser Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Primary Site Manager - Grade 4_CY-GB.pdf Primary Site Manager - Grade 4.pdf

Rheolwr Safle - YGG Abercynon

Disgrifiad Swydd
YSGOL GYNRADD GYMRAEG ABERCYNON

Greenfield Terrace, Glancynon, Abercynon. CF454TH

Rhif Ffôn: (01443) 740239

Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 267

Rheolwr Safle

35 Oriau'r Wythnos

Cyflog: Gradd 4 - £25,989 (£24,584 Pro Rata)

Amser Dechrau'r: Mor gynteg a phosib

Mae Bwrdd Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon yn dymuno apwyntio person didwyll, dibynadwy a brwdfrydig i ymuno â staff yr ysgol hon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymeryd â dyletswyddau porthorol / gofalwr, gwaith atgyweirio cyffredinol / addurno a gwaith cynnal a chadw.

Dylai'r ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a blaengar gan ddangos hyblygrwydd tuag at y dyletswyddau sydd ynghlwm i ofynion y swydd a'r gwaith sydd angen ei gyflawni yn yr ysgol.

Buasai dealltwriaeth o'r iaith Gymraeg yn ddymunol.

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anfurfiol cysylltwch gyda'r ysgol.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion:

https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC179GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 10 o Gorffennaf 2026.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.