MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £33,731 - £51,942
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £33,731 - £51,942
Athro/Athrawes - CA2 y Sector Gynradd (Swydd Parhaol)Medi 2026 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny.
Dymuna Corff Llywodraethwyr Ysgol Bro Preseli benodi athro rhagorol, brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm uchelgeisiol a gweithgar.
Mae'r swydd yn barhaol, gyda'r cyfrifoldeb o addysgu yn yr Adran Iau.
Rydym yn chwilio am athro / athrawes sydd:
- Â phrofiad cadarn o addysgu rhagorol yn yr adran iau
- Yn meddu ar ddealltwriaeth glir o ddatblygiad plant 7-11 oed a sut i greu amgylchedd dysgu ysgogol, trefnus a diogel sy'n cefnogi cynnydd
- Yn gallu cynllunio a darparu profiadau dysgu heriol ac ystyrlon sy'n datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
- Yn gallu meithrin annibyniaeth, dyfalbarhad a medrau dysgu effeithiol ymhlith disgyblion
- Yn gallu gweithio'n effeithiol gyda rhieni a gofalwyr i gefnogi cynnydd academaidd a lles disgyblion
- Yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o asesu cynnydd disgyblion, gan gynnwys defnyddio data i lywio addysgu a chynllunio
- Ag ymwybyddiaeth gadarn o bolisïau diogelu plant a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
- Â phrofiad o weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn yr adran iau, gan sicrhau ehangder, dyfnder a dilyniant mewn dysgu
- Yn gallu rheoli ymddygiad disgyblion yn gadarnhaol ac yn gyson, gan greu amgylchedd dysgu parchus a chynhwysol
- Â sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Yn drefnus iawn, gyda'r gallu i gynllunio'n effeithiol a rheoli llwyth gwaith
- Yn angerddol dros godi safonau a sicrhau cynnydd pob dysgwr, gyda pharodrwydd i fyfyrio a datblygu'n broffesiynol
- Yn ymrwymedig i werthoedd cynhwysiant, cydraddoldeb a llais y dysgwr
- Profiad o gefnogi disgyblion ag ADY, gan gynnwys cynllunio ac adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU
- Mae cryfderau ym maes addysg gorfforol yn ddymunol.
- Cymuned ysgol deuluol, gynhwysol a chroesawgar
- Cyfle cyffrous i ddysgu mewn ysgol 3-19
- Disgyblion gwych sy'n frwdfrydig dros ddysgu
- Ymrwymiad cryf i'ch datblygiad proffesiynol
- Cyfle i gydweithio'n agos â chydweithwyr ar hyd y continwwm dysgu
- Cyfle i ddatblygu sgiliau addysgu arloesol a chreadigol
Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: Dydd Llun, 6ed o Orffennaf 2026
Cyfweliadau: Dydd Iau, 9fed o Orffennaf 2026
Os hoffech drafod cynnwys y swydd hon ymhellach, yna cysylltwch â'r Dirprwy Bennaeth, Mrs Catrin Thomas drwy e-bost ar CThomas@ysgolbropreseli.cymru neu drwy ffonio 01239 831000.
Bydd yr Awdurdod yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.