MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £20,277 - £21,690
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 12 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Technegydd Anifeiliaid

Technegydd Anifeiliaid

Coleg Cambria
Agori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Technegydd Anifeiliaid
Lleoliad: Llaneurgain
Y Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £20,277- £21,690
Mae Coleg Cambria yn recriwtio ar gyfer Technegydd Anifeiliaid i weithio yn eu Canolfan Anifeiliaid ar eu safle yn Llaneurgain. Fel Technegydd Anifeiliaid yng Ngholeg Cambria byddwch yn gyfrifol am ofalu am ein casgliad o anifeiliaid, gan gynnwys ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus. Byddwch yn rhoi cymorth technegol i hyfforddwyr a darlithwyr gan sicrhau bod deunyddiau dysgu, yr offer a’r cyfarpar ar gyfer y myfyrwyr yn cael eu cynnal a’u paratoi ar gyfer y gweithdai. Yn ogystal â hyn, byddwch yn sicrhau bod y Ganolfan Anifeiliaid yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol hefyd. Byddwch yn helpu gydag arddangosiadau yn y dosbarth ac yn cynorthwyo myfyrwyr wrth iddynt weithio mewn sefyllfaoedd ymarferol. Byddwch yn helpu cynnal cofnodion iechyd, rhestrau eiddo a dogfennau technegol y Ganolfan Anifeiliaid ac yn cysylltu â’r tîm i drafod anghenion lles yr anifeiliaid a’r offer sydd eu hangen.
Dyma swydd amrywiol a diddorol lle byddwch yn gyfrifol am gadw’r Ganolfan Anifeiliaid yn daclus a diogel bob amser ar gyfer ein myfyrwyr ac ymwelwyr, cynnal teithiau, darparu hwsmonaeth a gofal milfeddygol arferol i’r holl anifeiliaid ar yr uned, darparu bwyd, dŵr a chynnal y llety ar gyfer amrywiaeth o anifeiliaid, archebu stoc a nwyddau bwytadwy.
Ar gyfer y swydd hon rydym yn chwilio am ymgeiswyr ag arbenigedd mewn gweithio gydag ystod eang o anifeiliaid megis ymlusgiaid, mamaliaid bach, cnofilod, infertebratau, amffibiaid, adar, anifeiliaid dyfrol, anifeiliaid fferm, merlod, cŵn a dofednod.
Gofynion Hanfodol
NVQ Lefel 2 neu gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol fel Gofal Anifeiliaid.
Profiad o weithio mewn lleoliad ymarferol mewn amgylchedd gofal Anifeiliaid perthnasol
Gwybodaeth a phrofiad o ofalu am ystod eang o rywogaethau anifeiliaid
Profiad o gynnal a chadw stoc, cynnal archwiliadau stoc a chysylltu ag amrywiol gyflenwyr
Rhaid bod yn ymwybodol o iechyd a diogelwch
Sgiliau TG rhagorol - Google Drive/MS Office
Sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tîm ardderchog
Gallu gweithio'n ddiogel ar eich liwt eich hunain a gallu rheoli a blaenoriaethu eich llwyth gwaith
Gallu gweithio ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.