MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,382 - £42,326
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 12 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Gofal Anifeiliaid

Darlithydd Gofal Anifeiliaid

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Darlithydd Gofal Anifeiliaid
Lleoliad: Llaneurgain
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser (14.8 awr yr wythnos)
Graddfa Gyflog: £27,382- £42,326 (Pro rata) (Mae pwyntiau UP2 ac UP3 yr uwch raddfa gyflog yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r raddfa dâl uwch)
Fel Darlithydd Gofal Anifeiliaid byddwch yn gyfrifol am gyflwyno cyrsiau Mynediad i Lefel 5 ac yn arwain a chefnogi dysgwyr mewn modd cadarnhaol a phroffesiynol. Bydd y swydd hon yn canolbwyntio ar gymorthyddion nyrsio anifeiliaid Lefel 2 a Lefel 3 mewn nyrsio milfeddygol. Rydym yn chwilio am nyrs filfeddygol gofrestredig sy’n gallu arddangos angerdd am y pwnc ac sy’n gallu cadw’n ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf yn y maes pwnc.
Gofynion Hanfodol
Gyda chymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn Nyrsio Milfeddygol
Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
Nyrs filfeddygol gofrestredig
Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hyn o fewn amgylchedd dysgu.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anabledd’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.