MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £33,731 - £51,942
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £33,731 - £51,942
Mae Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd yn awyddus iawn i ddod o hyd i athro Mathemateg dynamig, arloesol a llawn cymhelliant i helpu i lunio meddyliau cenedlaethau'r dyfodol. Os ydych chi'n frwd dros gyflawni rhagoriaeth ym maes addysgu a'ch bod yn benderfynol o gael effaith sylweddol o fewn ein hamgylchedd ysgol cynhwysol a blaengar, byddem yn falch iawn o dderbyn eich cais.Rydym yn falch o gynnig swydd barhaol yn dechrau cyn gynted â phosibl. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm rhagorol mewn ysgol sy'n hyrwyddo rhagoriaeth, cynhwysiant a disgwyliadau uchel. Efallai y bydd cyfle yn y dyfodol i addysgu yng Nghyfnod Allweddol 5, fodd bynnag, nid yw hyn yn hanfodol.
Prif gyfrifoldebau
- Ennyn brwdfrydedd a chyffro dysgwyr am fathemateg a rhifedd
- Addysgu dosbarthiadau gydag ystod o alluoedd mathemategol hyd at lefel TGAU
- Meithrin amgylchedd ystafell ddosbarth ysgogol a chwbl gynhwysol sy'n ennyn diddordeb disgyblion
- Gosod cyflawniad a disgwyliadau uchel wrth wraidd eich ymarfer
- Darparu cefnogaeth ddiwyro er mwyn helpu dysgwyr i ddatblygu gwytnwch mathemategol
- Meithrin perthnasoedd rhagorol â'ch dysgwyr ac aelodau o gymuned ehangach yr ysgol
- Cyfrannu'n gadarnhaol at ein diwylliant o welliant parhaus
- Defnyddio ystod fedrus o ddulliau asesu i alluogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial
- Ymarferydd rhagorol sy'n wirioneddol frwd dros addysgu a dysgu
- Yn meddu ar ddulliau arloesol a llawn dychymyg o addysgu, dysgu a chynllunio cwricwlwm
- Yn dangos brwdfrydedd diddiwedd, gwytnwch, a synnwyr digrifwch da
- Yn meddu ar ddull cydweithredol o weithio sy'n ysgogi meddwl cydweithwyr a dysgwyr fel ei gilydd
- Yn meddu ar sgiliau trefnu, dadansoddi a chyfathrebu eithriadol
- Yn ymrwymedig i adolygu, gwerthuso a gwella eu harfer
- Yn llawn cyffro i gymryd rhan mewn cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol
- Byddwch yn rhan o gymuned ffyniannus, ysgolheigaidd o addysgwyr
- Addysgwch mewn adeilad newydd cyffrous gyda thechnoleg ac adnoddau o'r radd flaenaf
- Cewch gefnogaeth weithredol o ran eich twf a datblygiad proffesiynol
- Cewch gyfle posibl i addysgu o fewn ein tîm chweched dosbarth ffyniannus
Rydym yn aros yn eiddgar am ymgeiswyr sy'n barod i ymgymryd â'r heriau ac elwa ar y rôl hon. Dewch i gael gwybod mwy am ein hethos a bywiogrwydd Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd trwy ymweld â'n gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol, neu drwy gael sgwrs neu ymweliad anffurfiol â ni ynghylch y cyfle cyffrous hwn.
Gwnewch gais nawr a pharatowch ar gyfer gyrfa werth chweil lle byddwch yn cael boddhad yn gwybod eich bod yn ysbrydoli meddyliau ifanc.
Mae Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd wedi ymrwymo i gynhwysiant ac yn hyrwyddo amrywiaeth. Rydym yn gwerthfawrogi pob cais yn gyfartal ac yn annog ymgeiswyr cymwys o bob cefndir i wneud cais.
Dewch yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i 'Ragori Gyda'n Gilydd'.
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.