MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,382 - £42,326
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd E-chwaraeon

Darlithydd E-chwaraeon

Coleg Cambria
Teitl y Swydd: Darlithydd E-chwaraeon
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Graddfa Gyflog: £27,382- £42,326 (Mae pwyntiau UP2 ac UP3 yr uwch raddfa gyflog yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r raddfa dâl uwch)
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd E-chwaraeon i gyflwyno ein cyrsiau Lefel 2 a 3 mewn E-chwaraeon. Bydd y pynciau y byddwch yn eu cyflwyno yn cynnwys Ffrydio, Digwyddiadau E-chwaraeon Menter, Hyfforddi, Iechyd a Llesiant.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, rhaid bod gennych brofiad a chymhwysedd profedig mewn darlithio a rhaid i chi feddu ar y cymwysterau addysgu perthnasol.
Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd gofyn i chi gyflwyno dysgu ymarferol a dysgu yn yr ystafell ddosbarth i'n myfyrwyr. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.