MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £29,742 - £33,901
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Adnoddau Dynol a Chymorth Busnes y Ffederasiwn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £29,742 - £33,901

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 3431

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Llanelli, Porth Tywyn

Gradd:

Gradd F +4%

Cyflog:

£29,742 - £33,901

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£15.42 - £17.57

Oriau Contract:

37 Awr

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae Ffederasiwn Bryngwyn a Glan-y-Môr yn ceisio penodi unigolyn proffesiynol a threfnus iawn i rôl Swyddog AD a Chymorth Busnes y Ffederasiwn.

Mae hon yn rôl allweddol sy'n darparu cymorth AD a gweinyddol effeithiol ar draws y Ffederasiwn. Bydd deiliad y swydd yn cydlynu prosesau AD, cynnal cofnodion staff cywir, cefnogi recriwtio a rheoli absenoldeb, a sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau'r Awdurdod Lleol, gofynion diogelu a GDPR.

Gan weithio o dan gyfarwyddyd Rheolwr Busnes a Gweithrediadau'r Ffederasiwn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau allweddol yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys timau recriwtio, cyflogres a chynghori AD, yn ogystal â chydweithio ag arweinwyr a staff ysgol i sicrhau gweithredu cyson a chywir o brosesau AD.

Mae'r rôl yn gofyn am sgiliau trefnu cryf, sylw i fanylion a'r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol gyda lefel uchel o gyfrinachedd a phroffesiynoldeb. Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad gweinyddol perthnasol, gan gynnwys prosesau AD, a bod yn hyderus wrth ddefnyddio systemau TG. Mae'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol.

Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Ysgol Bryngwyn, ond yn cefnogi'r ddwy ysgol o fewn y Ffederasiwn. Bydd angen teithio'n achlysurol rhwng safleoedd.

Mae'r Ffederasiwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ddarostyngedig i wiriad DBS Manylach.

Cytundeb: Tymor Ysgol + 2 Wythnos (41 wythnos y flwyddyn)

Oriau: 8:00yb - 4:00yp (egwyl ddi-dâl o 30 munud)

Lleoliad: Wedi'i leoli yn Ysgol Bryngwyn (yn gwasanaethu'r ddwy ysgol)

Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosibl

Cysylltwch â Sharon Griffiths am drafodaeth anffurfiol - sharon.griffiths@bryngwyn.cymru

Disgrifiad Swydd:

Federation Governance Admin Officer - Bryngwyn Glan Y Mor School - Feb 2026 (1).pdf - 265KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 21/06/2026, 10:00

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.