MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 23 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Celf a Dylunio a delir fesul awr

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)

Darlithydd Celf a Dylunio a delir fesul awr

Sylwch, mae hwn yn gontract fesul awr sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - maent yn cael eu cynnig ar sail achlysurol, ad hac i gyd-fynd ag anghenion y gwasanaeth ac felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)

Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)

Ydych chi'n angerddol am Gelf, Dylunio a Ffasiwn? Oes gennych chi'r arloesedd, y profiad diwydiant, a'r brwdfrydedd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol creadigol? Mae gennym ni gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm ar sail achlysurol fel Darlithydd a delir fesul awr mewn Celf a Dylunio, gan weithio'n hyblyg ar draws ystod o'n rhaglenni creadigol.

Yn y rôl hon, byddwch chi'n cynllunio, cyflwyno a gwerthuso cynnwys cwricwlwm diddorol, gan gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu meddwl dychmygus a mynegiannol, eu sgiliau technegol, a'u dealltwriaeth o'r diwydiannau creadigol. Dylech chi fod â phrofiad ymarferol mewn technegau lluniadu traddodiadol a digidol, gan gynnwys defnyddio deunyddiau amrywiol, ac Adobe Suite (yn enwedig Photoshop).

Dylech chi fod â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc a/neu fod â chymhwyster TAR (neu fod yn fodlon ennill un). Dylech chi hefyd fod â sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, gan fod yn angerddol am ysgogi pob dysgwr i ddatblygu eu creadigrwydd, eu sgiliau technegol, a'u dealltwriaeth o'r diwydiant creadigol.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.