MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)
Darlithydd Camu Ymlaen a delir fesul awrSylwch, mae hwn yn gontract fesul awr sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - maent yn cael eu cynnig ar sail achlysurol, ad hac i gyd-fynd ag anghenion y gwasanaeth ac felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)
Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)
Mae gennym gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont. Fel darlithydd a delir fesul awr, byddwch yn cynllunio, yn datblygu ac yn darparu cynnwys y cwricwlwm mewn modd effeithiol ac effeithlon.
Mae'r rhaglen Camu Ymlaen yn dod â chyfuniad cyffrous o lwybrau galwedigaethol Lefel 1 at ei gilydd mewn un gofod bywiog a chefnogol. Mae Camu Ymlaen yn hyb canolog lle mae myfyrwyr yn cael mynediad i dîm cymorth ymroddedig ar gyfer gofal bugeiliol a chymorth sgiliau. Cynhelir gweithgareddau cyffrous trwy gydol y flwyddyn i ennyn diddordeb dysgwyr a chefnogi datblygiad eu sgiliau craidd. Yma, gall myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau Addysg Gysylltiedig â Gwaith, cymwysterau mewn TG, Trin Gwallt, Therapi Harddwch, Gofal ac Astudiaethau Plentyndod, Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu'r Cyfryngau.
Gofynnwn i chi fod ag ymwybyddiaeth gadarn o gwricwlwm un o'r meysydd a nodwyd uchod. Bydd gennych y wybodaeth a'r profiad diweddaraf o ran cyflwyno cwrs, yn ddelfrydol gyda thystysgrif TAR (neu byddwch yn barod i'w hennill), a bydd gennych sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr a bod yn angerddol am ysgogi pob dysgwr.
Os ydych chi'n credu y gallwch gyfrannu at y dysgu a'r addysgu yn y maes yma, hoffem glywed gennych! Cliciwch ar y pecyn swydd-wybodaeth i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.