MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 23 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Celfyddydau Cynhyrchu (Theatr Dechnegol) a delir fesul awr

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)

Darlithydd Celfyddydau Cynhyrchu (Theatr Dechnegol) a delir fesul awr

Sylwch, mae hwn yn gontract fesul awr sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - maent yn cael eu cynnig ar sail achlysurol, ad hac i gyd-fynd ag anghenion y gwasanaeth ac felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)

Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont, gan gyfrannu at addysg a datblygiad y genhedlaeth nesaf o weithwyr theatr dechnegol broffesiynol. Fel darlithydd a delir fesul awr, byddwch yn cynllunio, yn datblygu, yn gwerthuso ac yn cyflwyno cyfarwyddyd ymgysylltiol ac arloesol ar draws ddisgyblaethau theatr dechnegol amrywiol, gan ddarparu mentoriaeth er mwyn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr theatr dechnegol broffesiynol.

Dylai fod gennych wybodaeth weithiol ragorol o'r celfyddydau cynhyrchu/cynhyrchu cefn llwyfan, gyda gwybodaeth a phrofiad da mewn theatr dechnegol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) dylunio a gweithredu golau, dylunio a gweithredu sain, fideo a thaflunio, rigio a chynhyrchu neu reoli llwyfan. Dylai fod gennych ddealltwriaeth glir am y diwydiant lleol a chenedlaethol, a byddai cysylltiadau yn y diwydiannau theatr a digwyddiadau byw yn fanteisiol. Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc a/neu dystysgrif TAR (neu fod yn barod i weithio tuag at un) yn hanfodol. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, fe fyddwch yn frwd dros ysgogi pob dysgwr a'u paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau theatr a digwyddiadau byw.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.