MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Cyflog Athro plus Lwfans Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 26 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dosbarth Anghenion Dysgu Cymhleth (Cwmbach Community Primary School)

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Cyflog Athro plus Lwfans Anghenion Dysgu Ychwanegol

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002478 Dyddiad postio 12/06/2026 Dyddiad cau ceisiadau 26/06/2026 Cyflog Cyflog Athro plus Lwfans Anghenion Dysgu Ychwanegol Oriau gwaith 32.5 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil Cwmbach Temporary Teacher Complex Needs Class_CY-GB.docx Teacher temporary CwmbachComplex Needs Class.docx

Athro Dosbarth Anghenion Dysgu Cymhleth (Cwmbach Community Primary School)

Disgrifiad Swydd
Athro Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (Anghenion Dysgu Cymhleth) wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Gymuned Cwm-bach (Hyd at ddiwedd blwyddyn ysgol 2027)

Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA [£2838]

Dyddiad Dechrau: 01 Ionawr 2027

Mae Gwasanaethau Cynhwysiant a Mynediad Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cymorth Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Dysgu Cymhleth.

Mae hyn yn gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag anawsterau dysgu cymhleth yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i oddeutu 10 disgybl o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 a bydd yn cael ei staffio gan athro ac un Cynorthwyydd Cynnal Dysgu.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau dysgu cymhleth a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus heb hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jenkins yn y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffoniwch 01443 744333.

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 26 Mehefin 2026

Cyfweliad: I'w Gadarnhau

Mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb i'r ysgol a'r cyngor. yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.