MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Gradd 7 (£31,022 x 77.15%)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 26 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 7 (£31,022 x 77.15%)
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002459 Dyddiad postio 12/06/2026 Dyddiad cau ceisiadau 26/06/2026 Cyflog Gradd 7 (£31,022 x 77.15%) Oriau gwaith 32.5 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil TA L4_CY-GB.pdf
Cynorthwyydd Dysgu Dros Dro (Lefel 4) - YGG Llwyncelyn
Disgrifiad Swydd
YSGOL GYNRADD GYMRAEG LLWYNCELYN
Ffordd y Grug, Llwyncelyn, Porth, Rhondda, CF39 9TL
Telephone: 01443 562220
Email: admin@yggllwyncelyn.rctcbc.cymru
Nifer y Disgyblion ar y Gofrestr: 356
CYNORTHWYYDD DYSGU DROS DRO (LEFEL 4)
Nifer yr oriau fesul wythnos: 32.5 Tymor yr Ysgol yn unig
Cyflog: Gradd 7 (£31,022 x 77.15%)
Math o Gontract: Dros Dro (1 Flwyddyn)
Dyddiad Dechrau: Medi 2026
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn ceisio penodi Cynorthwyydd Dysgu ymroddedig (Lefel 4) a fydd yn gweithio ar sail un-i-un o fewn yr ysgol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous ar gyfer datblygiad proffesiynol mewn amgylchedd gwaith hynod gadarnhaol.
Mae'r llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi cynorthwyydd addysgu lefel uwch y bydd ei rôl yn cynnwys:
• Cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu o ansawdd uchel i ddisgyblion.
• Darparu strategaethau rheoli ymddygiad dosbarth hynod effeithiol.
• Monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar eu cyflawniadau, cynnydd a datblygiad.
• Bod yn drefnus iawn, yn hawdd mynd ato, yn hyblyg ac â sgiliau cyfathrebu rhagorol.
• Meddu ar lefelau uchel o sgiliau Llythrennedd a Rhifedd.
• Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o egwyddorion a phedagoleg dysgu sylfaen, yn ogystal â Chamau Cynnydd 1-3.
• Bod ag ymrwymiad i helpu pob plentyn i gyrraedd ei botensial cynnydd llawn a symud disgyblion ymlaen yn eu dysgu.
• Bod ag ymrwymiad i ddysgu proffesiynol a datblygu ei ymarfer pedagogaidd ei hun.
• Gweithio'n agos gyda rheolwyr llinell, asiantaethau allanol, rhieni a'r gymuned ehangach, gan ddarparu adroddiadau cynnydd disgyblion ar lafar ac yn ysgrifenedig yn ôl yr angen.
Bydd y llywodraethwyr yn darparu cefnogaeth effeithiol i'r ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn dangos ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda nhw i ddarparu'r addysg orau bosibl i blant.
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, dylech chi ymgeisio am y swydd gan ddefnyddio eich cyfrif hunanwasanaeth gweithwyr, nid y ddolen isod. Os ydych chi'n wynebu unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich Cyfrif Hunanwasanaeth Gweithwyr, cysylltwch â Charfan Gweinyddu iTrent drwy ffonio 01443 680760 neu e-bostio: itrentadmin@rctcbc.gov.uk
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd, cysylltwch â:
Mr G Ashcroft, Pennaeth. E-bost: admin@yggllwyncelyn.rctcbc.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 26 Mehefin 2026.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.