MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,382 - £42,326
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 12 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Chwaraeon

Darlithydd Chwaraeon

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Darlithydd Chwaraeon

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser (25.9 awr yr wythnos)

Graddfa Gyflog: £27,382- £42,326 (Pro rata) (Mae pwyntiau UP2 ac UP3 yr uwch raddfa gyflog yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r raddfa dâl uwch)

Mae Coleg Cambria yn recriwtio am Ddarlithydd Chwaraeon i gyflwyno ein cwrs Lefel 2 i Lefel 5 mewn Chwaraeon yng Nglannau Dyfrdwy.

Er mwyn cael eich ystyried am y swydd, mae’n rhaid bod â phrofiad profedig a chymhwysedd i addysgu Chwaraeon, hanes profedig o addysgu dysgwyr Lefel 5 ac is, a rhaid cael TAR neu gymhwyster Lefel 6 mewn pwnc perthnasol o leiaf.

Fel darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd angen i chi gyflwyno sesiynau ymarferol ac yn yr ystafell ddosbarth i’n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau addas a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein dysgwyr bob amser.
Gofynion Hanfodol
Yn gymwys hyd at o leiaf Lefel 6/Lefel Gradd Israddedig mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
Cymhwyster dysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol yn ymarferol
Sgiliau Llythrennedd Ddigidol cadarn
Yn gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau dysgu ac addysgu
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd ydych chi’n gwneud cais amdani, efallai bydd gofyn hefyd i chi gofrestru gyda’r Cyngor y Gweithlu Addysg.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.