MANYLION.
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £1,877 - £2,120 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch-weithiwr Ieuenctid - Cymorth Ieuenctid

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £1,877 - £2,120 y flwyddyn

2 awr yr wythnos

Amser tymor

Mae cyfle cyffrous wedi'i greu yn ein Cymorth Ieuenctid i ddarparu cymorth mynediad agored i bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli un o'n canolfannau ieuenctid yn y sir, gan reoli tîm o weithwyr ieuenctid a sicrhau bod darpariaeth a arweinir gan anghenion yn cael ei darparu sy'n diwallu anghenion pobl ifanc yn unol â'r pum nod a nodwyd yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru.

Gall y swyddi gynnwys o leiaf 2 noswaith yr wythnos ac uchafswm o 4 noswaith yr wythnos a gweithio ar benwythnosau yn achlysurol. Mae'n ddymunol i ddeiliaid y swydd feddu ar drwydded yrru ddilys lawn.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ar y stryd yn ôl anghenion y gwasanaeth.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Gorffennaf 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 09 Gorffennaf 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person